Caiff bywyd a gwaith Ludwig Wittgenstein, yr athronydd a symudodd o Awstria i Brydain, eu dathlu drwy gyfres o ddigwyddiadau a gynhelir gan Brifysgol Abertawe mewn partneriaeth â Fforwm Diwylliannol Awstria yn Llundain a Menter Wittgenstein ym mis Mehefin 2020. Yn ôl llawer o bobl, ef oedd athronydd mwyaf yr 20fed ganrif.
Mae dwy gyfrol fawr Wittgenstein, a anwyd ym 1889 yn Fienna, wedi ysbrydoli llenyddiaeth eilaidd helaeth ac maent wedi cael dylanwad mawr ar ddatblygiadau ym maes athroniaeth ers hynny, yn enwedig yn y traddodiad dadansoddol.
Ar ben hynny, mae ei bersonoliaeth garismataidd wedi swyno artistiaid, dramodwyr, beirdd, nofelwyr, cerddorion a hyd yn oed gwneuthurwyr ffilmiau, gan ledaenu ei enwogrwydd ymhell y tu hwnt i gyfyngiadau'r byd academaidd.
Deilliodd cysylltiad Ludwig Wittgenstein â Phrifysgol Abertawe o'i berthynas â Rush Rhees, ei gyn-fyfyriwr, ei gyfaill mynwesol a'i ysgutor llenyddol, a fu'n gweithio yn yr Adran Athroniaeth rhwng 1940 a 1966. Ymwelodd Wittgenstein ag Abertawe'n rheolaidd rhwng 1942 a 1947 ac yn ystod y cyfnod hwn, o ganlyniad i'w sgwrs barhaus â Rhees, datblygwyd llawer o'r rhesymeg a fyddai'n ymddangos yn ei waith Philosophical Investigations, a gyhoeddwyd ar ôl iddo farw. Mae un o'r lluniau mwyaf nodedig o Wittgenstein yn ei ddangos mewn cysgodfan rheilffordd ar Bromenâd Abertawe, a dynnwyd gan Ben Richards, ei bartner, ym mis Medi 1947.
Ddydd Iau 16 Mehefin, bydd rhai o arbenigwyr mwyaf blaenllaw'r byd ar Wittgenstein a syniadau deallusol, gan gynnwys yr Athro Ray Monk, Dr Alfred Schmidt a James Kelman, yn cymryd rhan mewn cynhadledd o'r enw Ludwig Wittgenstein: An Austrian in Swansea. Bydd y gynhadledd, a gynhelir yn y Rhodfa yng Nghanolfan Celfyddydau Taliesin, yn para am ddiwrnod ac yn archwilio pwysigrwydd blynyddoedd Wittgenstein yn Abertawe i ddatblygiad ei athroniaeth ddiweddarach.
Am 6pm ar 16 Mehefin, bydd yr Athro Ray Monk, awdur y bywgraffiad uchel ei fri Ludwig Wittgenstein: The Duty of Genius, yn cyflwyno darlith gyhoeddus am ddim o'r enw Wittgenstein in Swansea yn Narlithfa Wallace ar Gampws Singleton. Bydd y ddarlith yn cynnig cyflwyniad gwych i'r rhai a all fod yn anghyfarwydd â Wittgenstein neu ei gysylltiad ag Abertawe.
Bydd arddangosfa o'r enw The Tractatus Odyssey and Wittgenstein’s Swansea Years yn y llyfrgell ar Gampws Parc Singleton Prifysgol Abertawe o 9 i 23 Mehefin. Bydd yr arddangosfa am ddim, a gyflwynir mewn cydweithrediad â Menter Wittgenstein yn Fienna a Fforwm Diwylliannol Awstria yn Llundain, yn ymdrin â blynyddoedd cynnar Wittgenstein a'r cyfnod cyn i'w gyfrol Tractatus Logico-Philosophicus gael ei chyhoeddi. Bydd yr arddangosfa hefyd yn rhoi cipolwg i gynulleidfaoedd ar gyfnod Wittgenstein yn Abertawe a'r etifeddiaeth a adawodd drwy Rush Rhees ac Ysgol Athroniaeth Abertawe.
Gwahoddir y rhai a fydd yn dod i'r ddarlith ar 16 Mehefin i seremoni agor swyddogol yr arddangosfa yn Llyfrgell Singleton am 5.15pm.
Meddai Dr Alan Sandry, athronydd gwleidyddol yn Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe, a threfnydd y digwyddiadau: “Rydyn ni'n falch y bydd y digwyddiadau sydd i ddod yn archwilio ac yn dathlu cysylltiad Ludwig Wittgenstein â Phrifysgol Abertawe, ac Abertawe'n fwy cyffredinol. Mae e'n gymeriad byd-enwog ond, yn anffodus, nid yw ei gyfnod yn Abertawe yn y 1940au wedi cael digon o sylw bob amser. Roedd ei etifeddiaeth academaidd a deallusol ym Mhrifysgol Abertawe yn ail hanner yr ugeinfed ganrif yn sylweddol, ac rydyn ni'n gobeithio adfywio rhywfaint o'r diddordeb hwnnw at ddibenion ein hoes fodern.”