Bydd logo Prifysgol Abertawe yn ymddangos ar flaen crysau oddi cartref newydd Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe yn ystod tymor 2022-23.
Bydd y Brifysgol yn noddi dillad teithio ac ymarfer y clwb hefyd drwy gydol yr ymgyrch sydd i ddod yn y Bencampwriaeth. Felly, bydd y logo'n ymddangos ar grysau oddi cartref y tîm cyntaf, yn ogystal â thimau dan 23 oed, dan 18 oed a menywod y clwb.
O ganlyniad i'r bartneriaeth barhaus, bydd cefnogwyr ifanc yn gallu parhau i wisgo'r un crys oddi cartref â'u harwyr yn nhîm Abertawe am y trydydd tymor yn olynol.
Bydd Prifysgol Abertawe hefyd yn cadw ei statws fel unig bartner addysg uwch y clwb.
Cyhoeddwyd yr wythnos diwethaf bod y clwb wedi penderfynu rhannu'r nawdd am ei grysau cartref ac oddi cartref er mwyn galluogi dau fusnes o Abertawe i ymddangos ar y crysau cartref ac oddi cartref a chynyddu'r sylw i'r ddau frand. Cyhoeddwyd mai Westacres, y datblygwr eiddo preswyl arobryn, fydd noddwr crysau cartref yr Elyrch yn ystod y tymor sydd i ddod.
Meddai Rebecca Edwards-Symmons, pennaeth masnachol Dinas Abertawe: “Rydyn ni wrth ein boddau y bydd logo Prifysgol Abertawe ar ein cit oddi cartref yn ystod tymor 2022-23, ar ôl cael adborth gwych gan ein cefnogwyr. Mae cytgord rhwng Prifysgol Abertawe a'n busnes ac mae'r ffordd hirsefydlog gysylltiedig o weithio i'w gweld yn amlwg gan ein cymuned.
“Mae gennym berthynas ardderchog â Phrifysgol Abertawe ac rydyn ni'n edrych ymlaen at barhau â'n partneriaeth sy'n cynrychioli ein clwb a'n dinas i'r dim.”
Bydd Prifysgol Abertawe hefyd yn parhau i noddi Eisteddle'r Gorllewin yn y stadiwm, a bydd ei brand yn ymddangos yn ystod y gemau sy'n cael eu ffrydio'n fyw i gefnogwyr y clwb yn y DU ac yn rhyngwladol drwy SwansTV Live.
Meddai Niamh Lamond, Cofrestrydd a Phrif Swyddog Gweithredu Prifysgol Abertawe: “Mae Prifysgol Abertawe'n falch o barhau â'r bartneriaeth â Dinas Abertawe yn ystod tymor 2022-23 sydd ar ddod. Gan atgyfnerthu ein partneriaeth â'r Elyrch, mae'r berthynas yn fwy na nawdd yn unig wrth iddi ymestyn i'r chwaraeon elît rydyn ni'n eu cynnig, yn ogystal â rhoi cymorth i fyfyrwyr a'r ardal leol.
“Hoffen ni ddiolch i bawb yng nghlwb Dinas Abertawe am barhau i'n cefnogi ac rydyn ni'n edrych ymlaen at y tymor yn y gobaith y bydd yn un llwyddiannus arall ar y cae ac oddi arno.”
Bydd y citiau cartref ac oddi cartref newydd ar gyfer 2022-23 ar werth cyn bo hir.