Cyhoeddwyd heddiw fod Canolfan Eifftaidd Prifysgol Abertawe wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Kids in Museums i Amgueddfeydd sy'n Croesawu Teuluoedd.
Mae'r elusen Kids in Museums wedi cyflwyno gwobr flynyddol uchel ei bri ers 16 o flynyddoedd, gan gydnabod y safleoedd treftadaeth mwyaf croesawgar i deuluoedd yn y DU. Dyma'r unig wobr i amgueddfeydd a ddyfernir gan deuluoedd.
O ddiwedd mis Mawrth i ddechrau mis Mehefin, pleidleisiodd teuluoedd ledled y DU dros eu hoff atyniad treftadaeth ar wefan Kids in Museums. Yna, o blith cannoedd o enwebiadau, gwnaeth panel o arbenigwyr lunio rhestr fer o 16 o atyniadau treftadaeth.
Mae'r Ganolfan Eifftaidd yn cystadlu ag amgueddfeydd eraill yng nghategori'r Amgueddfa Fach Orau.
Meddai Dr Ken Griffin, y curadur: “Rydyn ni wrth ein boddau i gael ein henwebu. Ers i'r amgueddfa agor ei drysau i'r cyhoedd ym 1998, rydyn ni wedi rhoi pwyslais cryf ar deuluoedd a phobl ifanc. Mae hyn yn cynnwys gweithgareddau i'r teulu megis mymïo ein mymi ffug, trin henebion Eifftaidd go iawn, a chwarae'r gêm fwrdd hynafol Senet.
“Mae cyrraedd rhestr fer y wobr hon yn cydnabod yr holl waith caled y mae ein staff a'n gwirfoddolwyr gwych yn ei wneud!ׅ”
Y Ganolfan Eifftaidd yw'r unig amgueddfa yng Nghymru sy'n ymroddedig i henebion Eifftaidd ac mae ei chasgliad yn cynnwys oddeutu 6,000 o wrthrychau. Gyda thîm bach o staff a mwy na 100 o wirfoddolwyr brwdfrydig, gan gynnwys gwirfoddolwyr ifanc sy'n rheoli'r amgueddfa bob dydd Sadwrn, mae'n cynnal rhaglen boblogaidd i ysgolion ac amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys gweithdai, sgyrsiau a gweithgareddau i'r teulu.
Dros wyliau'r haf, bydd beirniaid teulu cudd yn ymweld â'r amgueddfa. Byddant yn asesu'r amgueddfeydd ar y rhestr fer yn ôl maniffesto Kids in Museums. Bydd eu profiadau'n penderfynu ar enillydd ym mhob categori ac enillydd cyffredinol y Wobr i Amgueddfa sy'n Croesawu Teuluoedd ar gyfer 2022. Cyhoeddir yr enillwyr mewn seremoni wobrwyo ym mis Hydref.
Darllenwch fwy am y Wobr i Amgueddfeydd sy'n Croesawu Teuluoedd, a hwylusir gan gyllid gan Gyngor Celfyddydau Lloegr