Dyn yn gwenu y tu mewn i storfa llawn silffoedd wrth iddo ddal amrywiaeth o arteffactau Eifftaidd.

Yn ogystal â chynnau brwdfrydedd gydol oes Ken Griffin dros Eifftoleg, mae ymweliad ag amgueddfa yn ystod ei blentyndod wedi arwain at sicrhau'r swydd berffaith iddo. 

Mae newydd gael ei benodi'n guradur Canolfan Eifftaidd arobryn Prifysgol Abertawe ac mae bellach yn gyfrifol am ei chasgliad unigryw o henebion.

Mae Dr Griffin, a anwyd yn Belfast, yn dweud bod Eifftoleg wedi ei gyfareddu ar ôl taith i Amgueddfa Ulster pan oedd e'n chwe blwydd oed.

“Mae mymi'n cael ei arddangos yno o'r enw Takabuti, ac roeddwn i'n arfer gofyn i fy nhad fynd â mi yno bob dydd Sul. Roeddwn i am wybod mwy am y wlad, ac o'r diwedd es i yno ar fy mhen-blwydd yn 16 oed. Gwnaeth hynny gadarnhau'r syniad o astudio Eifftoleg. Roedd yn obsesiwn i mi,” meddai.

Dechreuodd Dr Griffin wirfoddoli yn yr amgueddfa pan oedd yn fyfyriwr Eifftoleg blwyddyn gyntaf yn ôl ym mis Hydref 2000. Ar ôl gorffen ei radd, aeth ymlaen i fod yn gynorthwy-ydd gweithdy dydd Sadwrn wrth iddo astudio am MA a PhD mewn Eifftoleg.

Ar ôl cyfnod fel darlithydd, denodd sylw'r cyfryngau pan ddarganfu bortread a oedd yn gysylltiedig â'r pharo Hatshepsut – un o bum menyw'n unig a wnaeth deyrnasu dros yr Hen Aifft – ar wrthrych roedd wedi mynd ag ef allan o'r storfa am sesiwn drin.

Meddai: “Mae'r swydd hon yn wych ac yn aml mae darganfyddiadau bob dydd. At ei gilydd, mae oddeutu 6,000 o wrthrychau yn ein casgliad, ond mae lle i arddangos oddeutu traean ohonyn nhw'n unig. Rwyf wedi gweld pob gwrthrych ond yn aml rydych chi'n gweld rhywbeth nad ydych chi wedi ei weld o'r blaen, yn enwedig pan fydd technoleg newydd ar gael.”

Yn ôl yn 2020, cafodd tri o anifeiliaid mymïaidd yr amgueddfa eu harchwilio gan ddefnyddio cyfleuster sganio tomograffeg gyfrifiadurol (CT) ficro, sy'n creu delweddau 3D eglur iawn. Darparodd y broses fanylder digynsail am fywydau'r anifeiliaid – a'u marwolaethau – fwy na 2,000 o flynyddoedd yn ôl.

Yn ystod ei gyfnod yn yr amgueddfa, mae Dr Griffin wedi cymryd rhan weithredol wrth addysgu Eifftoleg drwy raglen addysgu oedolion y Brifysgol ac mae'n hynod frwd dros sicrhau bod casgliad yr amgueddfa mor hygyrch â phosib.

Fis nesaf, bydd yn goruchwylio'r gwaith o osod cas arddangos newydd a fydd hefyd yn creu lle arddangos dros dro i'w ddefnyddio gan fyfyrwyr Prifysgol Abertawe.

Mae'r amgueddfa, sydd eisoes yn gyrchfan poblogaidd ar gyfer ysgolion, yn cynnal gweithdai a digwyddiadau rheolaidd ond, pan orfododd y pandemig iddi gau ei drysau, creodd Dr Griffin gyrsiau rhithwir drwy Zoom.

“Doedden ni ddim ar gael i'r cyhoedd o gwbl am 18 mis a'r siop anrhegion ac ysgolion yw prif ffynhonnell ein hincwm fel arfer. Ond roedd yr addysgu ar-lein yn llwyddiant ysgubol ac yn ystod y ddwy flynedd, bu modd i ni ennill cyllid hanfodol gwerth £50,000 o ganlyniad.

“Bydd y cyrsiau'n parhau'n bendant. Mae rhai o'r cyrsiau ar-lein wedi denu 180 o bobl ond pe bawn i wedi eu cynnal yma, byddai'r uchafswm wedi bod yn 15. Bu'n llwyddiant anhygoel.

“Mae pobl wedi cymryd rhan o fwy na 50 o wledydd ar chwe chyfandir – does neb wedi ymuno â ni o Antarctica eto!”

Hefyd, pwysleisiodd Dr Griffin y bydd gweithgareddau traddodiadol yr amgueddfa'n parhau, drwy gymorth mwy na 100 o wirfoddolwyr ymroddedig, yn ogystal â'i awydd i ddenu mwy o fyfyrwyr, yn benodol, drwy ei drysau.

Un o'i nodau tymor hir eraill yw gefeillio'r ganolfan ag amgueddfa yn yr Aifft er mwyn cyfnewid syniadau a gwybodaeth.

Ychwanegodd: “Myfyriwr oeddwn i pan ddes i yma am y tro cyntaf ac rwyf wedi bod yn rhan o'r Ganolfan Eifftaidd, sy'n lle arbennig iawn, byth ers hynny. Rwy'n deffro ac yn edrych ymlaen at ddod i'r gwaith bob dydd. Mae'n gyffrous bob amser.

“Mae'r cyfleoedd i gael swydd fel curadur Eifftoleg yn brin iawn, felly mae hyn yn dangos bod modd gwireddu breuddwydion.”

Rhagor o wybodaeth am y Ganolfan Eifftaidd a'i digwyddiadau sydd ar ddod

 

 

Rhannu'r stori