Mae myfyriwr bioleg y môr a ddewisodd astudio am ei radd Baglor a'i radd Meistr ym Mhrifysgol Abertawe bellach wedi coroni'r cwbl drwy raddio gyda PhD yn y Gwyddorau Biolegol.
Mae William Kay, 30 oed, yn dod o Fae Penrhyn yn wreiddiol. Derbyniodd PhD yn seremoni raddio'r Brifysgol am ei ymchwil i effeithiau datblygiadau ynni adnewyddadwy morol ar forloi. Roedd y prosiect hwn yn cynnwys olrhain morloi gwyllt yng Nghymru a'r Almaen drwy ddefnyddio tagiau a adeiladwyd gan Will.
Mae Will wedi ymgymryd â'i holl astudiaethau yn Adran y Biowyddorau Prifysgol Abertawe, a restrwyd yn y trydydd safle yn y DU am brofiad myfyrwyr gan The Times yn 2021.
Esboniodd Will yr ymchwil a wnaeth ar gyfer ei PhD: “Rydyn ni'n wynebu argyfwng hinsawdd. Mae cynhyrchu trydan gwyrdd, megis ynni adnewyddadwy morol, yn un ffordd hollbwysig o fynd i'r afael ag ef. Fodd bynnag, gall datblygiadau ynni adnewyddadwy morol fygwth bywyd morol hollbwysig, gan gynnwys morloi.
"Gwnes i ymchwilio i ymddygiad a symudiadau morloi, gan ddefnyddio dyfeisiau biogofnodi a ddatblygwyd ym Mhrifysgol Abertawe i'w monitro. Drwy'r rhain, roeddwn i'n gallu asesu'r risg bosib sy'n deillio o ddatblygiadau ynni adnewyddadwy morol a helpu i awgrymu mesurau lliniaru i leihau niwed. Bydd fy nghanfyddiadau'n helpu i ddiogelu bywyd morol a chefnogi’r diwydiant ynni adnewyddadwy morol.”
Dechreuodd Will ei yrfa yn Abertawe yn 2010, gan astudio am BSc (Anrh) Bioleg y Môr. Cafodd gyfle i ymgymryd ag amrywiaeth o weithgareddau gwaith maes wrth wneud y radd ymarferol hon, gan gynnwys treulio amser ar y môr ar long ymchwil Prifysgol Abertawe.
Yn ystod blwyddyn olaf ei gwrs israddedig, enillodd Will Wobr Academi Cyflogadwyedd Abertawe, gan ei alluogi i deithio i Batagonia i ymgymryd â'i draethawd estynedig ar ecoleg chwilota pengwiniaid Magellan. Graddiodd Will gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf, gan ennill Gwobr Goffa Graham Ralston ym Mioleg y Môr.
Ar ôl sicrhau ysgoloriaeth ôl-raddedig, dychwelodd Will i Brifysgol Abertawe i astudio MSc (Res) mewn Gwyddor Symudiadau Anifeiliaid yn 2014. Ymchwiliodd i symudiadau morloi harbwr a'u hymddygiad wrth blymio yn yr Almaen.
Yna ymgymerodd Will â PhD, gan gyflwyno ei ymchwil mewn cynadleddau rhyngwladol niferus, gan gynnwys yn Nenmarc, yr Eidal a Gwlad Belg. Yn ogystal, sefydlodd gydweithrediadau rhyngddisgyblaethol, gan weithio, er enghraifft, gyda pheirianwyr awyrofod i ddylunio tagiau hydrodynamig i olrhain anifeiliaid.
Y tu allan i'w astudiaethau, neilltuodd Will ei amser hamdden i Glwb Campau Tanddwr Prifysgol Abertawe (SUSAC), lle dysgodd sut i sgwba-blymio Gweithiodd i fod yn hyfforddwr a daeth yn aelod allweddol o'r clwb, gan wasanaethu fel capten a swyddog cyfarpar.
Ochr yn ochr â hyn, bu'n byw ac yn gweithio ar Gampws Singleton fel Warden Lles, gan roi cymorth i fyfyrwyr newydd. Enillodd Wobr Eden & Ravenscroft am gyfraniad rhagorol at fywyd myfyrwyr a derbyniodd aelodaeth gydol oes er anrhydedd gan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe. Ar ben hynny, yn ystod blwyddyn olaf ei astudiaethau, gwahoddwyd Will i fod yn aelod o Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru.
Ochr yn ochr â'i PhD, ymgymerodd Will â chyfnod sabothol am chwe mis mewn polisi gwyddoniaeth yn y Gymdeithas Frenhinol. Cymhwysodd hefyd i fod yn blymiwr iechyd a diogelwch ac yn gapten masnachol a defnyddiodd y cymwysterau hyn yn ei swyddi proffesiynol fel Swyddog Cychod a Thechnegydd Ymchwil ar gyfer dau o brosiectau ymchwil Prifysgol Abertawe, SEACAMS2 a Seagrass Ocean Rescue.
Mae Will bellach yn gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd fel Tiwtor Dadansoddi Data ac Ystadegau, gan addysgu yn Ysgol y Biowyddorau.
Gan fyfyrio ar ei amser fel myfyriwr yn Abertawe, meddai Will: “Fy mlynyddoedd yn Abertawe oedd rhai mwyaf ffurfiannol fy mywyd ac roeddwn i ar ben fy nigon! Rwy'n hynod ddiolchgar i Brifysgol Abertawe am lywio’r unigolyn a'r gweithiwr proffesiynol rydw i heddiw, ac am roi sylfaen gadarn i mi i ddilyn gyrfa lwyddiannus ym maes addysg uwch.”