Mae arbenigwyr data, cyflenwyr technoleg a llunwyr polisi wedi dod ynghyd i ddathlu pŵer a dyfodol uwchgyfrifiadura yng Nghymru.
Amlygodd y digwyddiad effaith ymchwil a gafodd ei galluogi gan gyfleusterau Cyfrifiadura Perfformiad Uchel a thimau peirianneg meddalwedd ymchwil ym mhob un o'r pedair prifysgol sy'n ymwneud ag Uwchgyfrifiadura Cymru: Abertawe, Aberystwyth, Caerdydd a Bangor.
Yn y gynhadledd, a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Caerdydd, cyhoeddodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, y bydd Uwchgyfrifiadura Cymru'n derbyn cyllid ychwanegol gwerth £2m gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, gan gynyddu'r cyfanswm i £11.9m ar gyfer y cyfnod rhwng 2015 a 2022. Gyda buddsoddiad gan y prifysgolion partner, mae'r rhaglen yn werth £19.6m.
Meddai Mr Gething: “Mae ymchwil, gwyddoniaeth a thechnoleg yn bwysicach nag erioed wrth fynd i'r afael â phroblemau byd-eang mawr ein hoes.
“Mae Uwchgyfrifiadura Cymru'n fwy nag isadeiledd cyfrifiadura – mae'n gymuned bwysig o beirianwyr meddalwedd ymchwil, staff technegol ac ymchwilwyr sy'n gweithio i gyflawni canlyniadau o bwys i wyddoniaeth, ein prifysgolion a Chymru.”
Ychwanegodd fod pwysigrwydd y consortiwm yn cael ei ddangos gan ei waith amhrisiadwy yn ystod y pandemig byd-eang wrth fodelu ymlediad Covid-19 yng Nghymru a dilyniannu genomau Covid-19.
Roedd Mike Gravenor, Athro Bioystadegau ac Epidemioleg yn Sefydliad Gwyddor Bywyd Prifysgol Abertawe, ymhlith y siaradwyr gwadd ac amlinellodd union gyfraniad Uwchgyfrifiadura Cymru wrth ddadansoddi data i fynd i'r afael â phandemig Covid-19.
Meddai'r Athro Biagio Lucini o Brifysgol Abertawe, a anerchodd y gynhadledd hefyd: “Mae'n gyffrous iawn gweld i ba raddau y mae uwchgyfrifiadura wedi datblygu yng Nghymru wrth gefnogi amrywiaeth o bynciau ymchwil academaidd pwysig, gan alluogi ein prifysgolion i ragori ar raddfa fyd-eang.”