Mae arbenigwyr sydd wrth wraidd ymdrechion i adfer dolydd morwellt arfordirol y DU yn dweud y dylid ailasesu cyfraniad y planhigyn anhygoel at y rhestr bwysicaf o bethau i'w gwneud yn hanes y ddynolryw.
Yn ogystal â bod yn hollbwysig i fioamrywiaeth, mae morwellt – yr unig blanhigyn yn y byd sy'n blodeuo o dan y dŵr – yn amsugno carbon deuocsid, sy'n helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.
Mewn papur newydd, sydd newydd gael ei gyhoeddi yn y cyfnodolyn Science, mae ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe’n dadlau o blaid ystyried gwerth morwellt o ran dyfodol di-garbon yng nghyd-destun nodau datblygu cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig – sef y cynllun cyffredin ar gyfer sicrhau dyfodol gwell a mwy cynaliadwy. Yn wir, mae cadw ac adfer dolydd morwellt yn cyfrannu at gyflawni 16 o'r 17 nod.
Mae'r awduron, gan gynnwys Dr Richard Unsworth a Dr Leanne Cullen-Unsworth, yn esbonio bod argyfwng y blaned yn ysgogi diddordeb mewn defnyddio morwellt fel dull naturiol o fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd ac o adfer bioamrywiaeth.
Fodd bynnag, mae sensitifedd morwellt i achoswyr straen yn enbyd ac, mewn llawer o fannau, mae'r risg y bydd yn cael ei golli neu'n dirywio yn parhau.
Meddai Dr Unsworth, cyfarwyddwr sefydlu'r elusen gadwraeth Project Seagrass, sy'n arwain tîm y Brifysgol: “Wrth i ymwybyddiaeth gynyddu o'r argyfwng planedol rydyn ni'n ei wynebu, mae diddordeb cynyddol mewn defnyddio morwellt fel dull naturiol o liniaru nwyon tŷ gwydr.
“Ond os bydd cyflwr ecolegol morwellt yn parhau i gael ei beryglu, yna bydd amheuaeth o hyd ynghylch gallu'r morwellt i gyfrannu at ddulliau naturiol o fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng bioamrywiaeth.”
Archwiliodd ymchwil ddiweddaraf y tîm gyfraniad ecolegol sylweddol morwellt a sut mae ailystyried ei gadwraeth yn hollbwysig er mwyn deall ei gyfraniad at y frwydr yn erbyn argyfwng ein planed.
Meddai Dr Unsworth: “Mae morwellt o bwys sylfaenol i'r blaned ond o'i gymharu â glaswellt ar y tir, a hyd yn oed gwymonau, mae llawer llai o waith ymchwil wedi cael ei wneud ar forwellt.
“Fodd bynnag, mae rhwystrau ecolegol, cymdeithasol a rheoleiddiol i adfer a chadw morwellt oherwydd graddfa'r ymyriadau y mae eu hangen.
“Erbyn hyn, mae datblygiadau mewn roboteg forol, ecoleg foleciwlaidd, synhwyro o bell a deallusrwydd artiffisial i gyd yn cynnig cyfleoedd newydd i ddatrys problemau cadwraeth mewn amgylcheddau anodd ar raddfeydd byd-eang digynsail.
“Dim ond drwy edrych y tu hwnt i garbon a sylweddoli gwir werth dolydd morwellt y gallwn ni ei roi ar lwybr i sicrhau colledion sero net ac yn y pen draw enillion net.”
Dyfodol Cynaliadwy, Ynni a'r Amgylchedd - Uchafbwyntiau ein Hymchwil