Mae Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol wedi enwi 40 o wyddonwyr cymdeithasol rhagorol yn Gymrodorion – gan gynnwys yr Athro Tom Crick MBE o Brifysgol Abertawe.
Mae Cymrodoriaeth yr Academi'n cynnwys unigolion uchel eu bri o'r byd academaidd, y sectorau cyhoeddus a phreifat a'r trydydd sector, ar draws yr holl wyddorau cymdeithasol. Drwy arweinyddiaeth, ysgolheictod, ymchwil gymhwysol, llunio polisi ac ymarfer, maent wedi helpu i feithrin dealltwriaeth ddyfnach o rai o'r heriau anoddaf y mae ein cymdeithas a'r byd yn eu hwynebu, a sut i fynd i'r afael â'r rhain.
Mae holl Gymrodorion yr Academi'n cael eu henwi ar ôl adolygiad cymheiriaid annibynnol a thrylwyr gan Bwyllgor Enwebu'r Academi. Fe'u detholir ar sail y cyfraniadau sylweddol a wnaed ganddynt at ymchwil, polisi ac ymarfer, ac am fynd y tu hwnt i ofynion arferol eu swyddi.
Tom Crick yw Athro Materion Digidol a Pholisi a Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol Cenhadaeth Ddinesig Prifysgol Abertawe. Mae ei ddiddordebau'n cysylltu ymchwil, polisi ac ymarfer: o addysg, polisi cyhoeddus, a'r economi a'r isadeiledd digidol, i wyddor data, deallusrwydd cyfrifiadol a seibergadernid. Mae ei gyfraniadau diweddar sydd wedi cael effaith fawr yn deillio o waith craffu cenedlaethol a rhyngwladol ar system addysg Cymru, ac mae'n adnabyddus yn bennaf am arwain y broses o ddiwygio addysg gwyddoniaeth a thechnoleg yng Nghymru am fwy na degawd, yn seiliedig ar ei ymchwil i addysg cyfrifiadureg.
Yn 2017, cafodd yr Athro Crick MBE yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines am wasanaethau i gyfrifiadureg a hyrwyddo addysg cyfrifiadureg. Yn 2020, derbyniodd wobr unigol BERA (Cymdeithas Ymchwil Addysgol Prydain) am Ymgysylltiad Cyhoeddus ac Effaith am “Arwain Dyfodol Addysg Gwyddoniaeth a Thechnoleg yng Nghymru”, yn ogystal â chael ei ethol yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, sef yr academi genedlaethol ar gyfer gwyddoniaeth a'r celfyddydau.
Wrth dderbyn gwobr yr Academi, meddai'r Athro Crick: “Rwy'n falch o ymuno â Chymrodorion clodfawr niferus Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol, sy'n adlewyrchu natur amrywiol a rhyngddisgyblaethol yn aml ymchwil ac effaith y gwyddorau cymdeithasol yn y DU ac yn rhyngwladol.
Meddai Will Hutton FAcSS, Llywydd Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol: “Mae Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol yn falch o groesawu amrywiaeth ardderchog o wyddonwyr cymdeithasol uchel eu bri i ymuno â'n rhengoedd – gan fod gwaith y gwyddorau cymdeithasol hyd yn oed yn bwysicach bellach. Rydyn ni'n edrych ymlaen at eu cynnwys yn ein gwaith.”