Mae'r map Gough yn dangos dwy ynys ym Mae Ceredigion yng ngorllewin Cymru nad ydynt yn bodoli mwyach. Hawlfraint: Llyfrgell Bodleian, Prifysgol Rhydychen

Mae'r map Gough yn dangos dwy ynys ym Mae Ceredigion yng ngorllewin Cymru nad ydynt yn bodoli mwyach. Hawlfraint: Llyfrgell Bodleian, Prifysgol Rhydychen

Mae traddodiad Cymreig sy'n dyddio yn ôl i'r Oesoedd Canol sy'n crybwyll tirwedd a gollwyd i'r môr yn gredadwy, yn ôl tystiolaeth newydd o esblygiad morlin gorllewin Cymru.  

Gan ddefnyddio data daearegol a map canoloesol, mae'r ymchwilwyr – o Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Rhydychen – yn awgrymu sut gallai dwy ynys fod wedi bodoli cyn diflannu eto.

Cafodd yr astudiaeth ei hysbrydoli gan Fap Gough, sef y map hynaf sydd wedi goroesi o Brydain Fawr, y mae ei wreiddiau yn y 13eg ganrif o bosib. Cedwir y map yn Llyfrgell Bodleian Prifysgol Rhydychen.

Mae'r map yn dangos dwy ynys ym Mae Ceredigion yng ngorllewin Cymru nad ydynt yn bodoli mwyach. Yn ôl y portreadau ohonynt, mae'r ddwy ohonynt oddeutu chwarter maint Ynys Môn yng ngogledd Cymru. Mae un ohonynt rhwng Aberystwyth ac Aberdyfi ac mae'r llall rhwng yr ardal honno ac Abermo i'r gogledd.

Ymgymerwyd â'r ymchwil gan Simon Haslett, Athro Anrhydeddus Daearyddiaeth Ffisegol ym Mhrifysgol Abertawe, a David Willis, Athro Astudiaethau Celtaidd Coleg Iesu ym Mhrifysgol Rhydychen.

Mae eu hastudiaeth yn ymchwilio i ffynonellau hanesyddol a thystiolaeth ddaearegol o'r forlin a gwely'r môr. Mae'n cynnig model ar gyfer sut mae'r arfordir wedi esblygu ers yr oes iâ ddiwethaf oddeutu 10,000 o flynyddoedd yn ôl, sy'n cynnig esboniad posib am yr ynysoedd ‘coll’.

Maent yn awgrymu y gallai'r ynysoedd fod yn weddillion tirwedd isel uwchben dyddodion rhewlifol meddal a oedd yn deillio o'r oes iâ ddiwethaf. Ers hynny, cafodd y tir ei erydu, gan greu ynysoedd, cyn i'r rhain gael eu herydu hefyd a diflannu erbyn yr 16eg ganrif.

Wrth i waddodion llai'r dyddodion rhewlifol gael eu herydu, gadawyd y graean a'r clogfeini mwy ar wely'r môr. Mae safle'r ynysoedd yn cyd-fynd â lleoliadau croniadau tanfor graean a chlogfeini, sef sarnau, yn ôl yr enw lleol.

Meddai'r Athro Simon Haslett o Adran Ddaearyddiaeth Prifysgol Abertawe:

“Rydyn ni'n gwybod bod arfordir gorllewin Cymru wedi newid yn sylweddol dros amser. Mae tystiolaeth gan y cartograffydd Rhufeinig Ptolemy yn awgrymu y gallai'r forlin 2,000 o flynyddoedd yn ôl fod wedi bod oddeutu 13km ymhellach i'r môr nag ydyw heddiw.

Mae Map Gough yn eithriadol o gywir o ystyried offer arolygu'r cyfnod, ac mae'r ddwy ynys wedi cael eu marcio'n glir.

Mae ein hymchwil yn cynyddu ein dealltwriaeth o'r prosesau arfordirol a all fod ar waith ar hyd arfordir Bae Ceredigion. ll hefyd helpu gydag ymchwil yn y dyfodol i esblygiad rhewlifol iseldiroedd tebyg mewn rhannau eraill yng ngogledd-orllewin Ewrop.

Mae deall deinameg morlinau'n bwysicach nag erioed. Mae rhai trefi ar hyd yr ardal y gwnaethon ni ei hastudio yn agored i newid yn yr hinsawdd a lefel y môr, ac awgrymwyd y gall arwain at rai o'r ffoaduriaid cyntaf o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd yn y DU.”

Meddai David Willis, Athro Astudiaethau Celtaidd Coleg Iesu ym Mhrifysgol Rhydychen:

“Gall ein tystiolaeth gynnig esboniad ynghylch gwreiddiau stori Cantre'r Gwaelod. Y chwedl yw bod y tir coll hwn wedi dioddef llifogydd trychinebus o'r môr a chyfeirir ato mewn barddoniaeth yn Llyfr Du Caerfyrddin ac mewn llên gwerin ddiweddarach.”

Cafodd yr ymchwil ei chyhoeddi yn y cyfnodolyn Atlantic Geoscience ac mae ar gael drwy fynediad agored tan 5 Medi 2022.

Adran Daearyddiaeth Prifysgol Abertawe

Coleg Iesu Prifysgol Rhydychen 

 

Rhannu'r stori