Mae cysylltiad rhwng ansawdd gwell y dŵr yn ardal gocos enwocaf Cymru a chocos llai sydd â chyfradd marwolaethau uwch, yn ôl arolwg newydd o hanner can mlynedd o ddata.
Mae cocos wedi cael eu cynaeafu ar hyd arfordir de Cymru ers canrifoedd. Mae Cilfach Tywyn ac aber Casllwchwr, ger Abertawe, yn gynefin sylweddol ar gyfer y gocosen gyffredin boblogaidd (Cerastoderma edule).
Fel rhywogaethau dwygragennog eraill, mae poblogaethau cocos yn tueddu i newid, naill ai o ganlyniad i newidiadau sydyn neu raddol yn yr amgylchedd naturiol, neu weithgarwch pobl.
Mae'r ymchwil newydd yn cynnig rhagor o ddealltwriaeth o'r amrywiad hwn a thueddiadau tymor hir, a fydd yn helpu i gadw a rheoli stociau cocos.
Cynhaliodd Dr Ruth Callaway, biowyddonydd o Brifysgol Abertawe, yr ymchwil. Archwiliodd 64 o adroddiadau monitro cocos o Gilfach Tywyn a luniwyd rhwng 1958 a 2009. Defnyddiodd y rhain i ddadansoddi tueddiadau o ran niferoedd cyffredinol cocos, eu maint a'u cyfraddau marwolaethau, yn erbyn cefndir o newidiadau yn y tywydd, yr hinsawdd a dulliau trin dŵr gwastraff.
Neges gyffredinol y data oedd amrywiad mawr yn ystod y cyfnod o 50 mlynedd o 1958 tan 2009.
Dyma ganfyddiadau penodol yr arolwg:
• Roedd y cyfraddau genedigaethau a marwolaethau'n uchel yn ystod degawd cyntaf a degawd olaf yr astudiaeth, ac roedd yr amrywiad yn gysylltiedig â chyfanswm poblogaeth y cocos
• Po fwyaf y boblogaeth, lleiaf oedd maint y cocos – roedd cysylltiad sylweddol rhwng nifer y cocos a maint cyfartalog y sbesimenau
• Dirywiodd meintiau’r cocos tua diwedd y 1990au, ac roedd cysylltiad sylweddol rhwng moderneiddio'r dulliau trin dŵr gwastraff a'r duedd ar i lawr hon, gan awgrymu y gallai'r newid yn nhrefn y maethynnau yn yr aber fod wedi arwain at leihau'r bwyd a oedd ar gael i'r cocos
• Po leiaf y cocos, mwyaf oedd eu cyfradd marwolaethau: roedd cysylltiad sylweddol rhwng maint cyfartalog y cocos ifanc a'u hirhoedledd
• Nid oedd cysylltiad sylweddol rhwng ffactorau amgylcheddol megis tymereddau a meintiau llai'r cocos
• Gwnaeth stociau cocos y gellid eu pysgota leihau yn ystod blynyddoedd olaf yr astudiaeth.
Ni werthusodd yr ymchwil effaith cynaeafu ar boblogaethau’r cocos oherwydd nad oedd yr adroddiadau monitro'n cynnwys data am hyn. Serch hynny, ni ellid diystyru pysgota fel ffactor sy'n cyfrannu at amrywiad ym mhoblogaeth y cocos.
Fodd bynnag, amlygodd y data fod newidiadau o ran dulliau trin dŵr yn ffactor mawr. Cyn 1997, gollyngwyd elifion dŵr gwastraff yn yr aber o saith safle carthion. Cafodd hyn ei foderneiddio wrth i ddau safle newydd ddefnyddio prosesau trin a oedd yn diheintio'r elifion ac yn gwaredu'r nitrogen. Roedd hyn yn golygu bod y dŵr yn lanach ac yn iachach i bobl, ond roedd llai o faethynnau i gynnal cocos.
Meddai Dr Ruth Callaway o Brifysgol Abertawe, y biowyddonydd a gynhaliodd yr ymchwil:
“Mae'r data'n datgelu rhagor o dystiolaeth bod y newid yn y dulliau trin dŵr gwastraff yng Nghilfach Tywyn ym 1997 wedi lleihau swm y bwyd a oedd ar gael i gocos, gan arwain at feintiau cocos llai ar gyfartaledd, a oedd yn sgîl hynny’n lleihau eu bywydau.
“Mae'n hanfodol cael dŵr o safon uchel. Yr her yw dod o hyd i ffyrdd o gadw ein dŵr yn lân a phoblogaeth ein cocos yn gryf ar yr un pryd.
“Er mwyn dod o hyd i ateb i unrhyw broblem o ran y stociau cocos, mae angen i ni gael y darlun mwyaf llawn sy'n bosib o hanes y cocos a'r amrywiad cefndirol yn gyntaf. Gall yr ymchwil newydd helpu yn hyn o beth. Mae'n dyfnhau ein dealltwriaeth o'r cysylltiad rhwng rheoli dŵr gwastraff a dwygragenogion, gan roi cipolwg gwell i ni ar amrywiad a thueddiadau tymor hir, a fydd yn helpu i gadw a rheoli aberoedd a phoblogaethau cocos.”
Meddai Spencer Williams o Gower Coast Seafood:
“Rwyf weld gweld sut mae maint cocos wedi lleihau dros y blynyddoedd. Nid dim ond cocos yr effeithiwyd arnyn nhw yn fy mhrofiad i, gan fod maint cregyn gleision ac abwyd du wedi lleihau hefyd, ac rwy'n credu bod hyn yn gysylltiedig â'r newid yn y dulliau trin dŵr gwastraff.”
Meddai Byron Davies, y Barwn Davies o Benrhyn Gŵyr:
“Mae gen i atgofion personol o bobl yn casglu cocos pan oeddwn i'n fachgen ifanc ym mhenrhyn Gŵyr, wrth iddyn nhw fynd i dywodydd gogledd Gŵyr a dychwelyd gyda'r pysgod cregyn. Mae pysgota am gocos yn creu treftadaeth barhaol mewn cymunedau arfordirol.
“Fel Aelod Seneddol, roeddwn i'n negodi'n rheolaidd rhwng y pysgotwyr, sefydliadau llywodraethol ac ymchwilwyr, ac mae Ruth a minnau wedi bod yn trafod newidiadau o ran poblogaethau cocos ers blynyddoedd.
“Mae'r data tymor hir hwn yn amlygu'r newidiadau mawr yn y stociau cocos y gellid eu pysgota dros y degawdau diwethaf. Gall y rhain fod yn naturiol neu gall gweithgareddau pobl ddylanwadu arnyn nhw. Mae'r wybodaeth yn hollbwysig i'r broses o reoli'r bysgodfa, y mae'n rhaid ei chefnogi yn y tymor hir.”
Meddai Andrea Winterton (Cyfoeth Naturiol Cymru – Rheolwr Gwasanaethau Morol), sy'n gyfrifol am reoli cocos yng Nghilfach Tywyn o ddydd i ddydd:
“Ein hamcan yw datblygu pysgodfa ffyniannus sy'n cefnogi, yn diogelu ac yn atgyfnerthu anghenion y gymuned, a'r amgylchedd y mae'n dibynnu arno.
“Mae'r papur hwn yn garreg filltir, sy'n darparu tystiolaeth i'n helpu i feithrin dealltwriaeth well o dueddiadau tymor hir o ran poblogaethau’r cocos dros gyfnod o 50 mlynedd hyd at 2009, pan oedd nifer o ffactorau'n effeithio ar y boblogaeth.
“Er bod heriau sy'n parhau, mae'r broses o reoli pysgodfeydd wedi gwella dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys methodolegau arolygu gwell a chynllun rheoli newydd. Mae hyn yn rhoi gwybodaeth well am y ffordd y mae stociau'n cael eu dosbarthu a thueddiadau poblogaethau.
“Er mwyn adeiladu ar y papur pwysig hwn, rydyn ni'n gobeithio cyhoeddi adolygiad o ddata a thystiolaeth yr arolygiad diweddaraf o 2010 er mwyn datgelu'r sefyllfa gyfredol yn ei chyfanrwydd.”