Dwy law chwith a dwy law dde gyda bysedd alltud

Gall y gwahaniaeth o ran hyd bysedd rhwng llaw chwith a llaw dde rhywun ddarparu gwybodaeth hollbwysig ynghylch pa mor sâl y gallai fod pe bai'n dal Covid-19. 

Er y credir yn gyffredinol ei fod yn glefyd ysgafn yn y rhan fwyaf o gleifion, mewn rhai achosion mae Covid yn datblygu i fod yn salwch acíwt, gan beri iddynt dreulio cyfnod yn yr ysbyty. Er mwyn helpu i lywio mesurau iechyd cyhoeddus effeithiol, mae'n bwysig nodi'r cleifion hynny sydd mewn perygl o gael salwch difrifol. Dyma thema ymchwil sy'n ymwneud ag arbenigwyr o Brifysgol Abertawe.

Yn ystod y pandemig, roedd cleifion oedrannus a dynion yn dioddef symptomau mwyaf difrifol Covid. Felly, mae arbenigwyr yn dweud y gall dirywiad o ran testosteron dynion yn hwyrach mewn bywyd fod yn gysylltiedig â threulio cyfnod yn yr ysbyty.

Y gred yw bod hydoedd cymharol bysedd, sef cymarebau'r bysedd, yn rhoi gwybodaeth sy'n gysylltiedig â thestosteron. O'u cymharu â menywod, mae gan ddynion bumed bys (bach) a phedwerydd bys (modrwy) hwy na'u trydydd bys (canol) a'u hail fys (mynegfys).
Yn aml, ceir gwahaniaeth rhwng y cymarebau hyn (2D:4D a 3D:5D) ar y llaw dde a'r llaw chwith ac felly gallant gynnwys gwybodaeth am destosteron ac achosion difrifol o Covid-19.

Nawr, mae'r Athro John Manning, arbenigwr cymarebau bysedd o'r tîm ymchwil Chwaraeon, Technoleg, Ymarfer Corff a Meddygaeth Cymhwysol (A-STEM) wedi bod yn gweithio gyda chydweithwyr o Brifysgol Feddygol Lodz yng Ngwlad Pwyl er mwyn ystyried y pwnc yn fanylach.

Mae eu papur diweddaraf, sydd wedi cael ei gyhoeddi yn Frontiers in Public Health, wedi nodi cysylltiadau rhwng anghymesureddau cymarebau bysedd y llaw dde a'r llaw chwith a phobl sy'n treulio cyfnod yn yr ysbyty o ganlyniad i Covid-19.

Meddai'r Athro Manning: “Mae gwahaniaethau mawr rhwng y llaw dde a'r llaw chwith o ran cymarebau 2D:4D a 5D:3D yn gysylltiedig ag achosion difrifol o Covid-19. Y gobaith yw y gall dealltwriaeth o'r cysylltiadau hynny wella ein gallu i nodi’n gywir unigolion sydd mewn perygl.”

Mae eu canfyddiadau'n dilyn ymchwil a gyhoeddwyd yn gynharach eleni a archwiliodd achosion difrifol o Covid-19 a'r cysylltiad rhyngddynt a dynion a menywod sydd â thestosteron isel ac o bosib estrogen uchel.

Ychwanegodd: “Mae ein hymchwil yn helpu i ychwanegu at ddealltwriaeth o achosion difrifol o Covid-19. Mae achosion o dreulio cyfnod yn yr ysbyty yn fwyaf cyffredin ymhlith yr henoed a dynion, ond mae llawer o ddynion oedrannus sy'n profi symptomau ysgafn Covid-19.

“I'r gwrthwyneb, nid yw bod yn ifanc nac yn fenywaidd yn gwarantu y cewch symptomau ysgafn y clefyd. Gall ein hymchwil helpu i nodi'r rhai sy'n wynebu'r perygl mwyaf o dreulio cyfnod yn yr ysbyty ym mhob grŵp oedran.”

Darllenwch y papur yn llawn: Right–left digit ratios, a novel form of asymmetry: Patterns of instability in children and relationships to platelet counts and hospitalization in adults with Covid-19

Rhannu'r stori