Llun o gynadleddwyr yr IEEC eleni mewn grŵp.

Yn ddiweddar, gwnaeth Prifysgol Abertawe groesawu academyddion, ymchwilwyr ac addysgwyr entrepreneuriaeth o bedwar ban byd yn y Gynhadledd Ryngwladol i Addysgwyr Entrepreneuriaeth (sef yr IEEC), a hynny wyneb yn wyneb am y tro cyntaf mewn tair blynedd.

Wedi'i threfnu gan Enterprise Educators UK (EEUK), mae cynhadledd yr IEEC wedi ennill cydnabyddiaeth ryngwladol fel llwyfan ar gyfer rhannu arferion gorau, galluogi trafodaethau craff, a chysylltu addysgwyr.

Wedi'i chynnal ar Gampws y Bae y Brifysgol rhwng 7 a 9 Medi, roedd y gynhadledd yn ddathliad o gyflawniadau ac yn amser i gyfnewid gwybodaeth am sut i ymgorffori rhagoriaeth ac arwain addysg fentergarwch mewn Sefydliadau Addysg Bellach ac Uwch.

Mae gan Brifysgol Abertawe enw rhagorol am Fentergarwch, gan gynnwys cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y ‘Brifysgol Entrepreneuriaid Eithriadol’ yng Ngwobrau THE 2021, gyda Llywodraeth Cymru'n cefnogi gweithgareddau drwy’r Gronfa Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru drwy Gronfa Arloesi Ymchwil Cymru (RWIF).

Roedd y digwyddiad yn ymdrin ag amrywiaeth eang o bynciau, megis 'Panel y Ffordd Gymreig', a archwiliodd sut y gall cydweithio rhwng sefydliadau fod o fudd pellach wrth ddechrau busnes, ac roedd yn cynnwys aelodau o Lywodraeth Cymru, Banc Datblygu Cymru, Ffederasiwn Busnesau Bach a Phrifysgolion Cymru.

Roedd y prif siaradwyr yn cynnwys cyn-fyfyriwr Prifysgol Abertawe Joelle Drummond a'i gwraig Sarah Drummond, sef cyd-sefydlwr cwmni Drop Bear Beer, a weiniodd eu cwrw di-alcohol arobryn yn ystod digwyddiad cymdeithasol y gynhadledd gyda'r hwyr.

Gwnaethant sefydlu cwmni Drop Bear Beer yn 2019 ac maent yn arwain y ffordd ym maes bragu di-alcohol wedi'i arwain gan fenywod yng Nghymru, fel yr amlygwyd drwy ennill pum gwobr yng Ngwobrau Busnesau Newydd Cymru eleni.

Gwnaeth cynhadledd yr IEEC alluogi'r Brifysgol i ddathlu ac arddangos y partneriaethau rhanbarthol a'r cymorth y mae'n ei gynnig i fusnesau newydd myfyrwyr a staff, megis cwmni Drop Bear Beer.

Gwnaeth sawl myfyriwr a busnes lleol gydweithredu ag EEUK drwy gydol y gynhadledd:

  • Cynhaliodd Lowri Wilkie, myfyriwr PhD mewn Seicoleg, sesiwn ymwybyddiaeth ofalgar gyda'r wawr, gan annog y cynadleddwyr i gymryd amser ar gyfer eu lles a dechrau’r diwrnod yn iawn.
  • Darparodd Ashima Anand addurniadau ar gyfer y Cinio Mawreddog gan ei busnes planhigion ac anrhegion corfforaethol, sef Aspera.
  • Y myfyriwr MChem Jacob Isaac, sy'n berchennog cwmni Alpine Photography, oedd yn gyfrifol am y gwaith ffotograffiaeth.
  • Darparwyd y fideograffiaeth gan Samuel Yeung, sy'n Fyfyriwr Llysgennad ac yn fyfyriwr MSc mewn Peirianneg Fecanyddol.

Dywedodd Gweinidog yr Economi Vaughan Gething: "Mae rhagor o gymorth i entrepreneuriaeth yn ganolog i'm huchelgais i wneud i bobl ifanc yng Nghymru deimlo'n hyderus wrth gynllunio eu dyfodol yma.

"Dyma ddechrau cyfnod newydd yn ein barn ni, a dyna pam rydym yn gweithredu'n gadarn i adeiladu economi fywiog sy'n rhoi cyfleoedd i bawb wrth i ni fuddsoddi'n gynaliadwy yn niwydiannau a gwasanaethau'r dyfodol.

"Mae hyn yn cynnwys ymgorffori diwylliant o entrepreneuriaeth a meithrin amgylchedd busnes sy'n ategu ac yn annog meddylwyr entrepreneuraidd a busnesau newydd i ffynnu.

"Mae Abertawe'n ddinas sy'n cael ei dyfynnu'n rheolaidd ymysg y pum dinas orau ar gyfer dechrau busnes yn y DU gyfan, wrth i Brifysgol Abertawe chwarae rôl allweddol yn ein hecosystem addysg fentergarwch.

"Rwyf wrth fy modd bod Llywodraeth Cymru'n noddi'r gynhadledd bwysig hon ac yn dangos ein hymrwymiad i feithrin Cymru wyrddach, decach sy'n cynnig llwybrau i ffyniant i'r holl bobl ifanc, beth bynnag eu cefndir."

Dywedodd Helen Griffiths, y Dirprwy Is-ganghellor dros Ymchwil ar Arloesi: “Roedd Prifysgol Abertawe yn falch iawn o gynnal Cynhadledd Ryngwladol Addysgwyr Entrepreneuriaeth eleni, ac i archwilio dulliau arloesol o annog a chefnogi myfyrwyr a staff i ddechrau busnesau a meithrin eu sgiliau entrepreneuriaid. Diolch o galon i’r tîm Mentergarwch a'r Gwasanaethau Cynadledda am eu cymorth drwy gydol y gynhadledd yn ogystal ag EEUK am gynhadledd ragorol”.

Rhannu'r stori