Mae Prifysgol Abertawe wedi cyflwyno cychod gwenyn ar ei champysau fel rhan o brosiect i wella lles myfyrwyr a staff.
Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe (ACA) a BywydCampws wedi partneru â Bee1, sef cwmni o Gymru sy'n addysgu'r cyhoedd am bwysigrwydd gwenyn ar gyfer yr amgylchedd a'n hiechyd meddwl, i greu Bee Together.
Wedi'i ddatblygu fel rhan o ymrwymiad y Brifysgol i les a dysgu yn y gweithle, mae Bee Together yn galluogi'r gymuned i ddod at ei gilydd a gweithio ar brosiect sydd wedi'i wreiddio mewn cynaliadwyedd.
Gyda chymorth hyfforddiant arbenigol gan Bee1, mae myfyrwyr a staff yn cael cyfle i feithrin sgiliau newydd a magu hyder drwy gynnal a chadw nythod gwenyn y Brifysgol ei hun.
Meddai'r myfyriwr gwirfoddolwr Charlotte McEwan, sy'n fyfyriwr Osteopatheg yn yr ail flwyddyn: "Mae'r rhaglen yn ffordd wych o fod yn rhan o gymuned Prifysgol Abertawe, teimlo'n gysylltiedig â byd natur a dysgu am ba mor anhygoel yw ein gwenyn bach!
"Wrth gael yr amser hwnnw i gael hoe o'm hastudiaethau a chymdeithasu gyda phobl newydd, mae hi eisoes yn helpu o ran fy lles!"
Ychwanegodd Finley Watson, sy'n fyfyriwr y Gymraeg yn yr ail flwyddyn: "Mae ymwneud â gwenyn yn gyfrifoldeb ymlaciol a di-straen sy'n rhoi rheswm i mi dros gwrdd â phobl a mwynhau'r Ardd Fotaneg.
"Mae'r gwenyn yn dirion iawn ac maen nhw'n gwella fy iechyd meddwl yn sylweddol, tra bod gofalu amdanyn nhw'n ganolbwynt ar gyfer meithrin rhwydweithiau cymorth cymheiriaid i fyfyrwyr."
Diolch i arbenigedd Mark Douglas - sef sefydlwr Bee1 - ym maes cadw gwenyn, cyflwynwyd 10,000 o wenyn ar bob campws, a bydd hynny'n cynyddu i 50,000 erbyn yr haf nesaf.
Bydd ychwanegu'r rhain yn gwneud gwahaniaeth mawr i'r ardal, a bydd pob cwch gwenyn yn gallu peillio 200 miliwn o blanhigion, blodau a ffrwythau yn Abertawe.
Dywedodd Mark am ei gyfraniad: "Wedi gweithio gyda sawl Ymddiriedolaeth y GIG, rydyn ni wedi gweld yr effaith sylweddol y gall gweithio gyda gwenyn ei chael ar eich iechyd a lles meddyliol. Gwnaethom gynnal gwerthusiad annibynnol ar staff a aeth y tu hwnt i'n gobeithion a'n disgwyliadau o bell ffordd.
"Diolch i gymorth a gweledigaeth ACA a BywydCampws ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn mynd â hwn gam ymhellach, drwy raglen a fydd ar gael i staff a myfyrwyr elwa arni wrth ofalu am eu gwenyn eu hunain.
"Hefyd, fel rhywun a ddechreuodd cadw gwenyn yn y brifysgol yn ystod fy ngradd, mae hi wir yn ychwanegu rhywbeth sy'n creu argraff ar eich CV.
Er bod y gwenyn yn dechrau troi'n llai gweithgar ar gyfer y gaeaf, mae tîm ACA eisoes yn edrych ar ffyrdd o ehangu'r prosiect.
Meddai Lucy Griffiths, Pennaeth Academi Cyflogadwyedd Abertawe (ACA):"Rydyn ni'n chwilio am ffyrdd o ddod â myfyrwyr a staff yn ôl at ei gilydd ar ôl y pandemig, yn ogystal â chodi lefelau hyder er mwyn helpu myfyrwyr i ail-afael yn eu teithiau cyflogadwyedd. Mae Bee1 yn ticio'r holl flychau hyn, ac mae'r ymateb gan fyfyrwyr a staff wedi bod yn well nag y gallem ni fod wedi gobeithio amdano.
"Mae gwenynwyr ymroddedig gennym ni eisoes, a'n camau nesaf ar gyfer y prosiect yw chwilio am gyfleoedd ymchwil ar gyfer y cychod yn ogystal â gweithgarwch entrepreneuraidd."