Mae llyfr newydd a ysgrifennwyd gan Stan Addicott, A Century of Sport (Y Lolfa), yn cyflwyno stori'r 100 mlynedd diwethaf o weithgarwch chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe, o'i sefydlu ym 1920 i'r presennol.
Caiff llu o arwyr chwaraeon eu dathlu, gan gynnwys pencampwyr Olympaidd a chwaraewyr rhyngwladol mewn amrywiaeth eang o chwaraeon gan gynnwys rygbi, pêl-droed, athletau, nofio, hoci a chriced. Mae'r llyfr hefyd yn nodi amlygrwydd cynyddol chwaraeon menywod, dyfodiad y cyfnod proffesiynol, a datblygu chwaraeon o bum clwb yn unig yn y Brifysgol i dros 50 heddiw.
Mae'r awdur, Stan Addicott, yn gyn-gyfarwyddwr Chwaraeon ac Addysg Gorfforol ym Mhrifysgol Abertawe ac mae ganddo brofiad gydol oes o hyfforddi gan gynnwys Clwb Rygbi Abertawe a bod yn hyfforddwr cynorthwyol i dîm cenedlaethol Cymru.
Gan roi sylw i ddigwyddiadau cymdeithasol a gwleidyddol yr oes fesul degawd, mae'r llyfr yn olrhain datblygiad chwaraeon yn y Brifysgol ond hefyd mae'n pwysleisio’r manteision i'r gymuned ehangach.Mae'n disgrifio sut cafodd 'ardal gwaredu sbwriel' ei datblygu'n Barc Chwaraeon gwych, a sut cafodd cyfleusterau newydd eu hadeiladu, megis Pwll Nofio Cenedlaethol Cymru a'r Neuadd Chwaraeon ar Gampws y Bae.
Mae'r awdur yn rhestru nifer o sêr chwaraeon amlwg, megis capteiniaid rygbi Cymru Alun Wyn Jones a Siwan Lillicrap, yr addysgwyd y ddau ohonynt ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae'n cyfoethogi eu cyflawniadau addysgol â straeon a sylwadau lliwgar.
Meddai'r Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: “Roedd Stan Addicott yn aelod gwerthfawr o'n cymuned o staff am dros bedwar degawd. Mae'r llyfr hwn wedi cael ei lywio gan gariad a gwybodaeth Stan am ein sefydliad, ynghyd â'i atgofion arbennig o'i gysylltiadau â phobl a mannau chwaraeon o flynyddoedd cynharaf ein Prifysgol.
“Yn y tudalennau hyn, mae wedi creu darlun cynhwysfawr o ddatblygiad, natur a chwmpas chwaraeon yn Abertawe dros y ganrif ddiwethaf. Mae'n cofnodi cyflawniadau chwaraeon llawn ysbrydoliaeth ein myfyrwyr a'n cyn-fyfyrwyr yn ein Prifysgol, ein cymuned leol a rhanbarthol ac ar y llwyfan rhyngwladol. Mae'r llyfr hwn yn cyfleu pwysigrwydd chwaraeon er mwyn chwaraeon, gan olrhain pleser a mwynhad pur ein staff a’n myfyrwyr sy'n cymryd rhan, gan amlinellu eu manteision niferus eraill hefyd".