Yn eu pedwaredd flwyddyn fel partneriaid perfformiad rygbi, mae'r Gweilch a Phrifysgol Abertawe (Chwaraeon Abertawe) wedi atgyfnerthu eu hymrwymiad i gefnogi a datblygu chwaraewyr ifanc y tymor hwn.
Mae'r bartneriaeth perfformiad uchel newydd yn cynyddu ymrwymiad y Gweilch a Phrifysgol Abertawe i ddarparu ac ehangu'r rhaglen rygbi yn y Brifysgol. Drwy fuddsoddi ymhellach yn y rhaglen rygbi a rhoi rhagor o adnoddau iddi, y nod yw denu, datblygu a chadw chwaraewyr rygbi ifanc o'r radd flaenaf. Am y tro cyntaf i'r bartneriaeth, a rygbi menywod yng Nghymru, bydd y buddsoddiad yn cynnwys rhaglen rygbi'r menywod, gan gynnig yr un manteision a chyfleoedd i'r menywod ag i'r dynion.
Bydd y bartneriaeth yn cefnogi chwaraewyr wrth iddynt reoli gyrfaoedd deuol ac yn rhoi strwythur ar gyfer llwybr llyfn i chwaraewyr o rygbi prifysgolion i rygbi proffesiynol ac ymlaen i rygbi rhyngwladol.
Esboniodd James Mountain, Rheolwr Chwaraeon Strategol Prifysgol Abertawe: “Dyma ddatblygiad hynod gyffrous ar gyfer partneriaeth sydd eisoes ar waith. Mae Prifysgol Abertawe a'r Gweilch wedi gweithio'n hynod galed i ddod ynghyd a chytuno ar set arbennig o egwyddorion a dangosyddion perfformiad allweddol a fydd yn cael effaith wirioneddol ar brofiad y myfyrwyr, eu datblygiad gyrfaol a’u gallu i ymaddasu i amgylcheddau rygbi proffesiynol yn ystod eu hamser ym Mhrifysgol Abertawe a'r tu hwnt.”
Bydd y bartneriaeth yn helpu'r Gweilch i gyflawni allbynnau perfformiad allweddol Prifysgol Abertawe yn Varsity Cymru a rhaglenni BUCS (British Universities & Colleges Sport), gan gynnal y safonau uchel a'r amcanion ansawdd a ddisgwylir gan glwb rygbi proffesiynol.
Anogir y dynion a'r menywod sy'n chwarae rygbi i gyfranogi yn rhaglen rygbi perfformiad uchel Prifysgol Abertawe, a byddant yn derbyn cymorth technegol, tactegol, seicolegol a ffisiolegol gwerthfawr iawn drwy gydol eu hamser yn y Brifysgol, gan roi'r cymorth a'r cyfle i'w galluogi i ymaddasu i raglenni proffesiynol a lled-broffesiynol.
Gan amlinellu ystyr y bartneriaeth newydd i'r myfyrwyr, meddai Hugh Gustafson, Rheolwr Perfformiad Rygbi Prifysgol Abertawe: “Bydd y bartneriaeth newydd yn sicrhau bod myfyrwyr sy'n dangos bod ganddynt sgiliau a galluoedd unigol yn cael llwybr clir tuag at chwarae ar y lefel uchaf. Fodd bynnag, yn ogystal ag adnabod chwaraewr, nod y gwasanaeth cynhwysfawr yw sicrhau ymagwedd gyfannol at ddatblygu'r unigolyn – yn athletaidd ac yn academaidd.
“Bydd y chwaraewyr ar y rhaglen yn cael eu trin fel athletwyr proffesiynol amser llawn, byddant yn cael eu cefnogi'n llawn a byddant yn gallu gweithio am radd o safon fyd-eang ochr yn ochr â'u hymrwymiadau rygbi.”
Ychwanegodd Dan Griffiths, Rheolwr Cyffredinol Rygbi'r Gweilch: “Bydd pob chwaraewr yn cael y cyfle i wireddu ei botensial llawn mewn amgylchedd sydd wedi'i greu'n benodol i gefnogi ac annog myfyrwyr i ragori’n academaidd ac yn athletaidd.”