Mae Canolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia (CADR) Prifysgol Abertawe wedi lansio ymgyrch i gynyddu ymwybyddiaeth o'r cysylltiad rhwng colli clyw a dementia.
Gall colli clyw beri i bobl dynnu'n ôl o sgyrsiau pob dydd a gadael unigolion i deimlo'n ynysig, gan amddifadu eu hymennydd o'r symbyliad hollbwysig sy'n deillio o siarad ag eraill.
Mae ymchwil yn awgrymu y gall defnyddio cymhorthion clyw i reoli colli clyw leihau risg ac effaith dementia yn drawiadol.
Er mwyn helpu'r rhai hynny sy'n colli eu clyw, mae CADR wedi cydweithredu â Sefydliad Awen a GIG Cymru i greu animeiddiad sy'n addysgu'r unigolion hyn ynghylch y camau y gallant eu cymryd.
Meddai Cyfarwyddwr CADR, Dr Andrea Tales: “Mae effaith colli clyw'n cael ei thanbrisio'n aml, ac mae llawer o bobl yn anymwybodol o'i gysylltiad â dementia.
“Mae'r animeiddiad hwn sydd wedi'i gydgynhyrchu yn seiliedig ar dystiolaeth ymchwil a'i nod yw amlygu pwysigrwydd mynd i'r afael â phroblemau gyda'r clyw, gan roi'r cyfle i bobl wneud dewisiadau cadarnhaol.
“Rydyn ni'n gobeithio y bydd yr ymgyrch hon yn annog pobl i siarad am y materion hyn yn fwy rhydd ac yn rhoi gwybod iddyn nhw ei bod hi'n iawn cysylltu â'u meddyg teulu a'u hawdiolegydd i drafod eu pryderon a threfnu asesiad o'u clyw.”
Mae'r animeiddiad yn esbonio pa mor bwysig ydyw i bobl gael asesiadau o'u clustiau a'u clyw cyn gynted â phosib, neu os oes ganddynt gymhorthion clyw eisoes, sicrhau eu bod mewn cyflwr da ac yn cael eu defnyddio'n rheolaidd.
Meddai Jane Wild, Cadeirydd Grŵp Penaethiaid Gwasanaeth Awdioleg Cymru: “Rydyn ni mor falch o weld yr animeiddiad hwn yn cael ei lansio.
“Bydd yn gwneud cyfraniad hollbwysig wrth addysgu pobl ynghylch y cysylltiad rhwng colli clyw a dementia, gwerth ceisio cymorth a defnyddio cymhorthion clyw.
Ychwanegodd Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Heb ymchwil, fyddwn ni ddim yn gwybod pa mor gryf yw'r cysylltiad rhwng colli clyw a dementia.
“Mae ymchwil yn darparu cyfleoedd hollbwysig i ystyried iechyd a lles yn gyffredinol a dod o hyd i gysylltiadau rhwng materion sy'n cwbl wahanol yn ôl pob golwg, gan arwain at ddealltwriaeth ddyfnach a chanlyniadau gwell.”