Mae cydweithrediad ymchwil sy'n archwilio sut gellir gwreiddio hawliau plant ifanc mewn ymarfer addysgu wedi sicrhau hwb cyllid mawr.
Mae'r tîm, sy'n cynnwys arbenigwyr o Brifysgol Abertawe, wedi llwyddo i sicrhau cyllid gwerth ychydig yn llai na £700,000 gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), sy'n rhan o UKRI (Ymchwil ac Arloesi yn y DU), drwy Raglen Ymchwil Addysg yr ESRC.
Mae'r prosiect tair blynedd yn archwilio mater heriol rhoi bwriad polisi ar waith mewn ymarfer addysg, gan ganolbwyntio ar hawliau cyfranogiad plant ifanc a sut maent yn cael eu harfer mewn ystafelloedd dosbarth.
Mae Dr Jacky Tyrie, uwch-ddarlithydd mewn addysg yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, a'r Athro Jane Williams, o Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton, wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr o Brifysgol Gorllewin Lloegr (UWE) Bryste, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, a'r ymgynghorydd addysgegol a'r artist-addysgwr Debi Keyte-Hartland.
Meddai Dr Tyrie a'r Athro Williams: “Mae'n fraint ac yn destun cyffro ein bod ni wedi cael y cyfle hwn drwy'r ESRC i archwilio, ar y cyd â phlant ac athrawon, sut gellir gwreiddio cyfranogiad plant ifanc rhwng pump a saith oed mewn ymarferion dyddiol yn ein hysgolion cynradd yng Nghymru.
“Rydyn ni'n falch o adeiladu ar gryfderau ymchwil trawsddisgyblaethol Abertawe i hawliau plant, gan gynnwys gwaith y Rhwydwaith Hawliau Plant yn y Blynyddoedd Cynnar, yr Arsyllfa ar Hawliau Dynol Plant, Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru a Lleisiau Bach Little Voices.”
Mae'r prosiect yn dymuno gweld hawliau plant wrth wraidd deddfwriaeth a darpariaeth yng Nghymru a sicrhau, yng nghyd-destun ysgolion, fod ymrwymiad i'r pedwar diben sy'n diogelu hawliau plant yn ategu'r Cwricwlwm i Gymru.
Yn ôl yr ymchwilwyr, mae arferion addysgegol – sut mae addysgwyr yn hwyluso ac yn hyrwyddo dysgu gydol oes plant – i gefnogi'r gwaith o arfer hawliau cyfranogiad plant ifanc yn anghyson. Ar adegau, maent yn adlewyrchu ymagweddau ‘cyfyngedig’ at arfer hawliau plant sy'n galluogi plant penodol yn unig i wneud dewisiadau penodol, ar adegau penodol, mewn mannau penodol, ac am resymau penodol.
Gan ganolbwyntio ar blant ifanc, mae'r prosiect hwn yn ystyried sut gall arferion addysgegol wreiddio hawliau cyfranogiad i bob plentyn a rhoi sylw, yn rheolaidd, i lais a galluogedd plant.
Mae'n mabwysiadu ymagwedd ymchwil gyfranogol arloesol, gan archwilio'r broblem ymchwil gyda phlant a'u hathrawon drwy ddulliau creadigol, ac yna gydag athrawon dan hyfforddiant a'u haddysgwyr mewn partneriaethau achrededig â phrifysgolion ac ysgolion yng Nghymru.
Ychwanegodd Dr Sarah Chicken, y Prif Ymchwilydd, o UWE: “Mae'n destun cyffro i ni fel tîm ein bod yn cael y cyfle i weithio ar y cyd â phlant ac addysgwyr ledled Cymru ac i ddatblygu rhwydweithiau cynaliadwy a fydd yn para ar ôl cyfnod yr astudiaeth. Rydyn ni'n credu y gall ein prosiect effeithio ar y man cyswllt rhwng damcaniaeth, ymarfer a pholisi.”
Meddai'r Athro Gemma Moss, Cyfarwyddwr y Rhaglen Ymchwil Addysg: “Dyma gyfle cyffrous i'r gymuned ymchwil addysg weithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid eraill a dod o hyd i ffyrdd newydd o fynd i'r afael â heriau hirhoedlog i addysg mewn ysgolion.”
Meddai'r Athro Alison Park, Cadeirydd Gweithredol Interim y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol: “Drwy'r Rhaglen Ymchwil Addysg, mae'r ESRC yn ariannu ymchwil newydd bwysig a fydd yn meithrin dealltwriaeth ac yn helpu i fynd i'r afael â heriau parhaus i systemau addysg orfodol y DU, gan gynnwys sut i ddenu, addysgu a chadw athrawon ardderchog, a sut i fabwysiadu technolegau newydd a manteisio i'r eithaf arnyn nhw.
“Bydd y rhaglen yn cefnogi athrawon a phlant drwy ymdrin â materion megis gwytnwch, cyfranogiad, recriwtio, hyfforddiant a chadw athrawon.”