Mae astudiaeth newydd gan Brifysgol Abertawe wedi amlygu sut gall y cyfryngau cymdeithasol fod yn fygythiad i ddyfodol y Gymraeg ac iechyd seicolegol ei siaradwyr.
Cynhaliwyd yr ymchwil, sydd wedi cael ei chyhoeddi yn Trends in Psychology, gan Dr Richard Jones, Dr Irene Reppa a'r Athro Phil Reed o'r Ysgol Seicoleg. Dyma'r ymchwil gyntaf o'i bath i gymharu ymatebion siaradwyr ieithoedd mwyafrifol ac ieithoedd lleiafrifol ar y cyfryngau cymdeithasol.
Gwerthusodd y tîm 800 o siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf a Saesneg iaith gyntaf o 13 oed i 15 oed sy'n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg ledled Cymru.
Roedd mwy na 10% o'r disgyblion yn dangos lefel uchel o ddibyniaeth ar y cyfryngau cymdeithasol, sy'n adleisio astudiaethau yn Ewrop.
Ar ben hynny, dangosodd y canfyddiadau fod bron 70% (209 allan o 303) o siaradwyr Cymraeg yn defnyddio'r Saesneg yn aml neu bob amser ar y cyfryngau cymdeithasol, a bod y mwyafrif helaeth ohonynt yn defnyddio'r Saesneg yn fwy na'r Gymraeg.
Er bod gwaith blaenorol wedi dangos bod y Gymraeg wedi’i sefydlu ei hun yn y dirwedd ddigidol, gall bywiogrwydd parhaus y Gymraeg fod dan fygythiad os yw siaradwyr Cymraeg yn newid i'r iaith fwyafrifol.
Meddai Dr Richard Jones: “Gan gydnabod pwysigrwydd iaith i hunaniaethau diwylliannol a chymdeithasol siaradwyr ieithoedd lleiafrifol, byddai erydu iaith ar-lein yn bygwth hunaniaeth ddiwylliannol cenedl.
Hefyd, gwerthusodd yr astudiaeth effaith seicolegol defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol ar siaradwyr dwyieithog (Cymraeg-Saesneg).
Datgelodd y data y gallai awydd siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol yn Gymraeg ddeillio o ddymuniad i hybu hunan-barch, sicrhau cydraddoldeb ieithyddol â siaradwyr Saesneg, neu gysylltu â siaradwyr Cymraeg eraill.
Meddai Dr Richard Jones: “Bydd bywiogrwydd parhaus ieithoedd lleiafrifol dan fygythiad os yw eu siaradwyr yn newid i'r iaith fwyafrifol, gan godi cwestiynau ynghylch arwyddocâd yr iaith leiafrifol ym meddyliau ei siaradwyr.”
Ychwanegodd yr Athro Phil Reed: “Yn ogystal ag ystyried effeithiau'r cyfryngau cymdeithasol ar iechyd a lles seicolegol, mae'r astudiaeth yn dangos bod angen i lywodraethau hefyd ystyried eu heffaith ar grwpiau lleiafrifol a all gael eu gorfodi i roi'r gorau i ddylanwadau pwysig sy'n destun sicrwydd wrth chwilio am rhyngweithiadau digidol, sy'n gynyddol angenrheidiol i fywyd pob dydd.”
Nododd Dr Irene Reppa: “Mae'r gwaith hwn yn taflu goleuni ar y materion sy'n bygwth ieithoedd lleiafrifol, megis y Gymraeg, wrth i ddiwylliannau gael eu homogeneiddio o ganlyniad i ddefnyddio'r rhyngrwyd a'r cyfryngau cymdeithasol i gyrraedd cynulleidfa fyd-eang.”