CONVERA GLOBALPAY

Gall myfyrwyr rhyngwladol nawr dalu eu ffioedd blaendal a dysgu gan ddefnyddio ein platfform talu sy'n cael ei bweru gan ein partner Convera GlobalPay.

Mae hyn yn caniatáu i chi, eich rhieni a'ch noddwyr dalu ffioedd myfyrwyr GBP yn yr arian o'ch dewis mewn ffordd syml a diogel.

TAFLEN WYBODAETH MYFYRWYR - NIGERIA (CLICIWCH I AGOR)

Sut i dalu gyda Convera GlobalPay:

  1. Yn syml, dewiswch o ba wlad rydych chi'n talu, yr hyn rydych chi'n ei dalu amdano, a'r dull talu o’ch dewis.
  2. Rhowch eich manylion myfyriwr, gan ddilyn y manylion talwr.
  3. Dilynwch y cyfarwyddiadau talu a gwnewch eich taliad.

Payment Logos

CONVERA - SUT I DALU

MANTEISION I CHI

Manteison i chi:

  • Gall myfyrwyr, rhieni a noddwyr ddefnyddio'r platfform hwn i dalu blaendaliadau, ffioedd dysgu a mwy.
  • Byddwch yn osgoi taliadau trafodion costus gan eich banc.
  • Gallwch dalu ar-lein drwy opsiynau poblogaidd gan gynnwys trosglwyddiad banc, cerdyn credyd neu ddebyd neu eWallet.
  • Gallwch gymharu opsiynau talu ar unwaith. Mae Convera yn cadw’r gyfradd gyfnewid am 72 awr.
  • Os ydych chi’n dod o hyd i ddyfynbris rhatach gan eich banc, bydd Convera yn cynnig yr un raddfa gyda'u Gwarant Addewid Pris.
  • Gwiriwch eich statws talu trwy SMS ac e-bost.
  • Platfform amlieithog ar gael mewn 10 iaith.
  • Mynediad at wasanaeth sgwrsio byw 24/7 ar y platfform neu cysylltwch â'n tîm cyfeillgar: students.convera.com/#!/contacts     
  • Platfform wedi'i adeiladu gyda diogelwch mewn golwg er mwyn diogelu eich arian.
  • Gallwch ddechrau ad-daliadau yn hawdd os bydd amgylchiadau'n newid.
  • Talwch eich ffioedd trwy bartner byd-eang sydd wedi bod yn helpu myfyrwyr i wireddu eu breuddwydion addysg ers dros ddegawd.
  • Tawelwch meddwl; rydych chi'n cael tipyn o fargen. Os ydych chi’n dod o hyd i bris is gan eich banc, bydd Convera yn cynnig yr un pris i chi. Dysgwch fwy am yr Addewid Pris. (Telerau ac Amodau yn berthnasol).

Sesiynau 'Galw Heibio' Cyllid

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am ffioedd dysgu ac yr hoffech siarad ag aelod o'n tîm, mae gennym Apwyntiadau Wyneb yn Wyneb ar Gampws y Parc, ar y diwrnodau a'r amseroedd a ddangosir isod.  Gellir bwcio ein sesiynau wyneb yn wyneb gan ddefnyddio'r ddolen isod:

Campws Singleton - Adeilad Faraday, Gofod Llawr Gwaelod / Ciwb Gwydr:

Dydd Mercher 2.00yp - 4.00yp

Gwneud Apwyntiad - Faraday Building/Ground Floor/Glass Cube Meeting Space - LibCal - Swansea University

Gallwch fynd i’n sesiynau sgwrsio byw ar-lein gan ddefnyddio'r ddolen isod:

 

Sgwrs Fyw

Dydd Llun 2.00yp - 4.00yp
Dydd Iau 2.00yp - 4.00yp