Julia Pridmore

Cyfarwyddwr Gweithredol Academi Iechyd a Lles

Mae gen i gyfoeth o brofiad yn rhychwantu rolau clinigol, academaidd a rheoli uwch yn y GIG a'r Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Rwyf wedi ymgymryd ag amrywiaeth o swyddi Academaidd yn yr ysgol gan gynnwys uwch ddarlithydd, cyfarwyddwr rhaglen, pennaeth cyswllt arloesi ac ymgysylltu a bellach yn Gyfarwyddwr Gweithredol yr Academi Iechyd a Lles.

Rwy'n angerddol am ddatblygu'r Academi Iechyd a Lles fel canolfan ragoriaeth ym mhob un o'r 3 llinyn gweithgaredd; dysgu ac addysgu, darparu gwasanaeth ac ymchwil.

 

Craig Toutt

Academaidd Glinigol (Academi Iechyd a Lles)

Yn wreiddiol, fe wnes i hyfforddi fel osteopath yn 2000, ac rydw i wedi bod yn gyfrifol am sefydlu a datblygu nifer o bractisau yn ne Cymru. Mae gen i brofiad mewn arweinyddiaeth glinigol, rheolaeth a gweithio gyda thimau i sicrhau canlyniadau cadarnhaol.

Rwyf wedi gweithio i'r Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol er 2011 gan ymgymryd ag amrywiaeth o rolau fel Cyfarwyddwr Clinig, Arweinydd Tîm, Arweinydd Adran Arloesi ac Ymgysylltu, Uwch Ddarlithydd ac Athro Cysylltiol.

Mae gen i ddiddordeb mawr mewn iechyd a lles ac angerdd i sicrhau bod yr Academi Iechyd a Lles o fudd i fyfyrwyr, staff a'r gymuned ehangach.

 

Andrew Kemp

Athro Cyswllt a Chyfarwyddwr Ymchwil (Academi Iechyd a Lles)

Rwy'n ymchwilydd amlddisgyblaethol ac yn academydd, gyda diddordebau ymchwil sy'n rhychwantu niwrowyddoniaeth wybyddol ac affeithiol hyd at epidemioleg, gan bontio'r bwlch rhwng mecanwaith biolegol ac iechyd cyhoeddus tymor hir.

Rwyf wedi datblygu rhaglen ymchwil gynhyrchiol i ddeall yn well y berthynas rhwng lles meddyliol a chorfforol, gan ddenu sylw sylweddol gan gymunedau gwyddonol a lleyg.

Rhwng 2013 a 2015 roeddwn yn Athro Gwadd ym Mhrifysgol Sao Paulo ym Mrasil yn gweithio ar yr astudiaeth fwyaf ar iechyd a lles poblogaeth Brasil. Nawr fel Cyfarwyddwr Ymchwil yr Academi Iechyd a Lles, rwy'n canolbwyntio ar gynnal ymchwil drosiadol effaith uchel sy'n gydweithredol ac yn golegol ei ysbryd gyda llygad tuag at wella iechyd a lles yn y gymuned leol.