Mae gan Brifysgol Abertawe ystod o gyfleoedd i chi gymryd rhan mewn clybiau, cymdeithasau a Diwylliant Cymreig tra eich bod yn astudio gyda ni. Efallai nad ydych chi'n hyderus yn siarad Cymraeg ac eisiau cyfle i ymarfer, neu eich bod yn siaradwr rhugl ac eisiau cwrdd ag eraill sy'n siarad eich iaith.

Mae croeso cynnes i bawb.

Y Gymdeithas Gymraeg (Y Gym Gym)

Mae bod yn aelod o’r Gym Gym yn gyfle gwych i fyfyrwyr Cymraeg Abertawe i gymdeithasu a chwrdd â siaradwyr Cymraeg eraill o fewn y Brifysgol. Bob blwyddyn, mae’r Gymdeithas yn cynnal nifer fawr o ddigwyddiadau sydd yn amrywio o grôlau a nosweithiau cymdeithasol, nosweithiau cwis ac ambell drip. Y prif noson mae pawb yn disgwyl ymlaen ato yw'r crôl teulu ar ddechrau'r flwyddyn; mae'n gyfle gwych i ddod i adnabod aelodau newydd a phresennol Y Gym Gym. Yn flynyddol, trefnir trip yn ystod y Chwe Gwlad i Ddulyn neu i Gaeredin. Mae’r tripiau yn siawns dda i gymdeithasu a gwneud ffrindiau gydag aelodau Gym Gym’s eraill ar draws Cymru. Bob blwyddyn, mae'r Gym Gym yn mynychu Dawns Rhyngolegol a’r Eisteddfod Ryngol gan gystadlu yn erbyn Cymdeithasau Cymraeg eraill.

Dysgwch ragor am gymdeithasau Undeb Y Myfyrwyr yma neu ddarllenwch ragor am Y Gymdeithas Gymraeg yma.

Logo y Gymdeithas Gymraeg, sef alarch o fewn tarian gyda enw'r Gym Gym uwch ei ben a Prifysgol Abertawe oddi tano,

Aelwyd yr Elyrch

Ysbrydolwyd ein myfyrwyr i greu aelwyd newydd yr Urdd eu hunain ac fe lansiwyd Aelwyd yr Elyrch ar ddiwrnod pen-blwydd yr Urdd yn 100 yn 2022. Mae Aelwyd yr Elyrch yn gyfle gwych sy’n addas i bobl 18-25 oed. Mae'r Aelwyd yn cynnig cyfleoedd i chi gystadlu yn yr Eisteddfod, gwirfoddoli yn y gymuned leol a bod yn rhan o weithgareddau ymarferol a llawer mwy. Mae'r Aelwyd yn cwrdd bob pythefnos mewn lleoliadau amrywiol ar gampysau'r Brifysgol.

Ystyr y gair Aelwyd yw cartref felly beth am ymuno a’n cartref newydd ni o fewn cymuned fawr yr Urdd?  Mae'r Aelwyd yn gweithio'n agos iawn gyda'r Gymdeithas Gymraeg, Swyddog Materion Cymraeg, Undeb Myfyrwyr a Changen Abertawe.  

Logo Aelwyd yr Elyrch

Shwmae, Carys ydw i a fi yw Swyddog Materion Cymraeg Undeb y Myfyrwyr!

"Rydw i'n teimlo'n hynod angerddol am ein hiaith, ein diwylliant a'n treftadaeth ers yn ifanc iawn. Rwyf wedi derbyn addysg trwy gyfrwng y Gymraeg trwy gydol fy mywyd gan gynnwys yn ystod fy amser yma ym Mhrifysgol Abertawe wrth astudio BA Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfryngau.

Cefais fy magu mewn ardal wledig gwbl Gymraeg sydd mor falch o'i hiaith a'i diwylliant cyfoethog a chredaf bod hyn wedi ffurfio fy ngwerthoedd, agweddau a fy hunaniaeth. Fy nod ar gyfer y flwyddyn academaidd hon yw cyfrannu at nod Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Rwy’n gobeithio cyfrannu trwy godi ymwybyddiaeth am ein hiaith, treftadaeth a diwylliant dros y flwyddyn nesaf. Mae gennym glybiau a chymdeithasau croesawgar a dw i’n credu bod cyfle i dyfu i fod yn un gymuned enfawr. Mae'r flwyddyn nesaf am fod yn llawn hwyl a sbri."

E-bost: carys.dukes@swansea-union.co.uk

Image of Carys Dukes