Mae cymuned LGBT sylweddol yn Abertawe sy'n groesawgar ac yn gynhwysol iawn ac mae digon o ffyrdd o gymryd rhan yn y gymuned.

Yn bersonol, rwy'n credu bod Prifysgol Abertawe yn hynod gefnogol a chynhwysol tuag at ei myfyrwyr a staff LGBT. Fel Prifysgol, mae'n rhagweithiol iawn yn y gymuned hefyd, gan gynnig llawer o ddigwyddiadau

i bobl LGBT er mwyn iddynt gwrdd â chymheiriaid sy'n debyg iddyn nhw drwy gydol y flwyddyn, nid yn unig yn ystod mis Balchder.

Y neges allweddol yr hoffwn ei chyfleu fel rhan o fis Balchder yw 'bydd yn falch; os byddi di'n falch o dy hunan, does dim ots beth mae pobl eraill yn meddwl amdanat ti'.