Dim ond 1 o bob 3 entrepreneur yn y Deyrnas Unedig sy'n fenyw - bwlch rhwng y rhywiau sy'n cyfateb i 1.1 miliwn o fusnesau coll.
Mae Prifysgol Abertawe yn falch iawn o bartneru ag Anne Boden, sylfaenydd Starling Bank, a raddiodd o Brifysgol Abertawe mewn Cyfrifiadureg a Chemeg, fel rhan o'i rôl fel cadeirydd Tasglu Llywodraeth y DU ar fentrau twf uchel dan arweiniad menywod.
Nod y tasglu yw codi uchelgeisiau'r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid benywaidd, gan dynnu sylw at amrywiaeth a chynhwysiant mewn entrepreneuriaeth dwf uchel, gan ddangos bod hynny ar agor i bawb, waeth beth fo'u rhyw.
Er mwyn hyrwyddo nodau'r tasglu, mae Anne a Starling Bank wedi partneru â Phrifysgol Abertawe i lunio cyfres o astudiaethau achos. Mae pob un yn adrodd hanes menyw arloesol, gan gynnig cipolwg ar eu teithiau unigryw a darparu profiad dysgu i fyfyrwyr a'r gymuned ehangach.
Rydym wedi cwrdd â nifer o entrepreneuriaid benywaidd hynod lwyddiannus gan gynnwys Hayley Parsons, sylfaenydd Go Compare; Kate Hofman, sylfaenydd GrowUp Farms; Romi Savova o PensionBee; ac wrth gwrs, Anne Boden ei hun, i drafod eu teithiau entrepreneuraidd, darganfod pam yn eu barn nhw maent wedi bod yn llwyddiannus, a sut byddent yn newid y status quo i gynyddu nifer y busnesau bach a chanolig twf uchel dan arweiniad menywod yn y DU.
Darllenwch yr holl astudiaethau achos isod a darganfod mwy am sut y gallwch gymryd rhan.