Adolygiad Blynyddol o Raglenni

Mae'r broses Adolygiad Blynyddol Rhaglenni (APR) yn hanfodol i'r gwaith o wella rhaglenni, cyfleoedd dysgu a dyfarniadau’r Brifysgol, sy'n sail i brofiad y myfyrwyr.Datblygwyd y broses Adolygiad Blynyddol Rhaglenni i alluogi ymagwedd ragweithiol at fonitro blynyddol, yn seiliedig ar yr egwyddorion o fyfyrio’n barhaus ac wedi'i halinio â’r data ansawdd academaidd sydd ar gael ar draws y flwyddyn academaidd.

Mae APR yn darparu fframwaith i Feysydd Pwnc allu adolygu a ffurfioli ymarferion gwella a myfyrio cyfredol, ac mae’n ffordd ffurfiol a threfnus i ystyried ystod o ddata sydd ar gael (gan gynnwys adroddiadau Arholwyr Allanol, adborth myfyrwyr, cofrestriadau, dilyniant a chwblhau, canlyniadau asesu, canlyniadau gradd a chyflogadwyedd) drwy gydol y flwyddyn er mwyn annog gwelliant parhaus i brofiad y myfyrwyr. Mae’r Adolygiad Blynyddol Rhaglenni wedi’i llywio’n uniongyrchol hefyd gan yr Adolygiad Blynyddol Modiwlau, gan dynnu ar ganfyddiadau'r broses gysylltiedig agos hon ymhlith rhannau cyfansoddol modiwlau.

Mae’r Adolygiad Blynyddol Rhaglenni yn seiliedig ar Gyngor a Chanllawiau Côd Ansawdd y QAA ar Fonitro a Gwerthuso. Dosberthir gwybodaeth am yr Adolygiad Blynyddol Rhaglenni yn y cyfadrannau, fel arfer trwy'r Deon Cysylltiol Addysg, Arweinydd Addysg yr Ysgol a/neu dîm Ansawdd y Gyfadran trwy’r Hwb APR. Mae’r rhan fwyaf o'r deunyddiau a'r cyfarwyddyd sydd eu hangen arnoch er mwyn cwblhau'r broses ar gael yma, fodd bynnag, dylai Cyfarwyddwyr Rhaglen hefyd ymgyfarwyddo â'r trefniadau lleol yn yr Ysgol neu’r Gyfadran, gan y bydd angen i bob Adolygiad Blynyddol Rhaglenni gael ei gymeradwyo gan gorff cymeradwyo perthnasol y Gyfadran, cyn ei gyflwyno'n derfynol.

Disgwylir y bydd myfyrwyr yn cymryd rhan weithredol yn y broses APR. Yn hanesyddol, mae hyn wedi bod ar ffurf cyfranogiad cynrychiolwyr myfyrwyr ar Fyrddau Astudio, fodd bynnag, anogir cyfranogiad mwy gweithredol gan gynrychiolwyr myfyrwyr a’r sawl sy’n mynychu Fforymau Myfyrwyr-Staff. Gall aelodau'r Gymuned Adolygu Myfyrwyr, sydd wedi derbyn hyfforddiant sicrhau ansawdd, gael eu gwahodd i gyfrannu neu ymgynghori. Am gymorth a chyngor ynghylch cynnwys myfyrwyr yn y broses Adolygiad Blynyddol Rhaglenni, e-bostiwch quality@abertawe.ac.uk.

Ceir canllawiau pellach ynghylch y broses Adolygiad Blynyddol Rhaglenni yn yr adran Cwestiynau Cyffredin hon.