Adolygiadau Ansawdd

Mae’r Broses Adolygu Ansawdd wedi’i hysbysu gan ddata, ar sail risgiau, ac mae’n cyflwyno ymagwedd â ffocws at Sicrhau Ansawdd a Gwella, gan adlewyrchu newidiadau cenedlaethol sy’n cynnwys y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu ac ymagwedd ddiwygiedig yr ASA at Adolygiadau Gwella Ansawdd sefydliadau yng Nghymru. Mae’r Adolygiad Ansawdd yn ystyried canfyddiadau a chamau gweithredu proses yr Adolygiad Blynyddol o Raglenni ar gyfer y pum mlynedd blaenorol mewn cyd-destun ymagwedd ehangach a mwy cyfannol at adolygu. Mae’r Adolygiad Ansawdd yn ystyried yr holl agweddau sy’n ysgogi brofiad y myfyrwyr neu sy’n effeithio arno, gan gynnwys dysgu, addysgu ac asesu; perfformiad ymchwil a’i ryngwyneb ag addysgu; diwylliant ac ymarfer adrannol; a gwybodaeth arall am sicrhau ansawdd (megis ymgysylltu â Chyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddiadol (PSRB)), gan sicrhau bod yr ymagwedd wedi’i hintegreiddio a’i bod yn osgoi dyblygu ymdrech lle y bo’n briodol. 

Mae’r Broses Adolygu Ansawdd yn berthnasol i’r HOLL feysydd pynciau a rhaglenni, gan gynnwys rhaglenni newydd eu cyflwyno lle nad yw’r myfyrwyr wedi graddio eto ac mae’r rhaglenni’n destun achrediad gan gyrff proffesiynol/statudol. Mae’r Gwasanaeth Ansawdd Academaidd wedi datblygu ymagwedd sydd wedi’i hoptimeiddio a’i graddio at weithredu’r Broses Adolygu Ansawdd. Mae hyn yn sicrhau ei bod yn gryno, yn gadarn, yn rhagweithiol, yn hyblyg ac yn addas at y diben. Fel arfer, cynhelir yr Adolygiad Ansawdd bob pum mlynedd lle bydd rhaglen yn perfformio o fewn paramedrau a ddiffinnir a phan fydd wedi’i hasesu fel risg isel. Os yw’r maes pwnc/rhaglen wedi bod yn destun Adolygiad Ansawdd Uwch, bydd pwynt yr Adolygiad Ansawdd yn newid i sicrhau y cynhelir y broses adolygu bum mlynedd, oni bennir fel arall drwy asesiad risg.