Gall unigrwydd ac unigedd cymdeithasol effeithio ar bobl trwy gydol eu hoes ond mae'r henoed yn arbennig yn agored i niwed oherwydd newidiadau sy'n gysylltiedig â heneiddio. Gellir ystyried mai unigrwydd yw'r gwahaniaeth rhwng nifer gwirioneddol ac ansawdd y perthnasau sydd gan bobl a'r sefyllfa ddelfrydol yr hoffent fod ynddi, tra bod unigedd cymdeithasol yn seiliedig wrthrychol ar nifer y cysylltiadau ym mywyd person.

Er enghraifft, gall unigolyn fod ynysig yn gymdeithasol ond nid ydynt yn ystyried eu hunain yn unig oherwydd bod ganddynt gylch agos o ychydig ffrindiau neu aelodau o'r teulu y gallant ddibynnu arnynt. Mae’r Dr Deborah Morgan yn edrych ar y gwahanol ffyrdd y mae unigrwydd yn effeithio ar fywydau pobl hŷn. Yn ddiweddar, daeth yn guradur academaidd cyntaf unigrwydd – sef menter gan Ofal Cymdeithasol Cymru.

Mae amrywiaeth eang ym mhrofiad unigrwydd ac unigedd cymdeithasol yn hwyrach mewn bywyd. Gall profedigaeth, iechyd gwael ac ymddeoliad oll gynyddu'r perygl bod person hŷn yn teimlo'n unig neu'n colli cysylltiad â ffrindiau a chydweithwyr. Yn 2018, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth genedlaethol eang i frwydro unigrwydd. Gallwch ddilyn gwaith Deborah ar Twitter sef @Deborah08765276. Am ragor o wybodaeth am unigrwydd, gwelwch raglen ddiweddar Wales This Week 'When Lonely comes to call' neu ewch ati i weld Deborah yn rhoi sgwrs TEDX ar Unigrwydd.