Trosolwg o'r Cwrs
Ymunwch â ni ar daith i ddatgloi dirgelion y bydysawd.
Mae ein BSc (Anrh) Astroffiseg yn cyfuno rhesymu dadansoddol, datrys problemau drwy fathemateg a chwilfrydedd gwyddonol i archwilio sut mae'r bydysawd yn gweithio, o fyd cwantwm isatomig i'r strwythurau cosmig mwyaf.
Rydym yn falch o'n hamgylchedd ymchwil arloesol, lle mae arbenigwyr sy'n flaenllaw yn rhyngwladol yn gweithio ar draws sbectrwm eang ffiseg, gan gynnwys lled-ddargludyddion, nanoffiseg, laserau, gwrthfater, meysydd cwantwm a'r bydysawd cynnar. Mae'r ymchwil hon yn llywio ein haddysgu'n uniongyrchol ac yn darparu amgylchedd ysbrydoledig ar gyfer eich astudiaethau.
Bydd eich profiad yn ymestyn ymhell y tu hwnt i ddarlithoedd, gan roi i chi gyfleoedd i ddefnyddio telesgopau a chanfodyddion a gweithio gyda data seryddol go iawn. Mae ein rhaglenni'n datblygu sylfaen gref mewn ffiseg gan eich galluogi i feithrin sgiliau dadansoddi, cyfrifiadol ac arsylwi a werthfawrogir mewn llawer o sectorau gwyddonol a thechnegol.
Un o uchafbwyntiau ein gradd yw'r cyfle i ymgymryd â phrosiectau ymchwil uwch, yn aml mewn agweddau arloesol ar ffiseg, dan oruchwyliaeth academyddion o fri rhyngwladol. Mae ein cydweithrediadau helaeth â chyfleusterau uchel eu proffil, gan gynnwys CERN, yn cynnig cyfleoedd cyffrous ar gyfer prosiectau myfyrwyr, interniaethau a phrofiad ymchwil.
Nod ein rhaglen yw datblygu astroffisegwyr amryddawn a chanddynt yr arbenigedd gwyddonol, y sgiliau meddwl yn feirniadol a chyfathrebu, ynghyd â'r gallu i addasu sy'n angenrheidiol i ffynnu mewn byd darganfod gwyddonol sy'n datblygu'n gyson.