Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r Clasuron yn ymchwilio i lenyddiaeth a diwylliant y bydoedd Groegaidd a Rhufeinig a byddwch hefyd yn astudio Groeg ar lefel ganolradd ac uwch. Mae'r cwrs gradd BA tair blynedd hwn yn cynnig amrywiaeth o bosibiliadau gyrfa cyffrous drwy eich helpu i feithrin sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn rhoi llawer o werth arnynt.
Mae'r Flwyddyn Sylfaen yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i Addysg Uwch, yn rhoi'r sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth y mae eu hangen arnoch chi i fod yn llwyddiannus yn eich gradd israddedig. Mae'n ddelfrydol os bydd angen ychydig mwy o gymorth arnoch chi ar ôl addysg bellach neu'n dychwelyd i fyd addysg ar ôl blynyddoedd lawer.
Gellir dadlau mai diwylliannau Groeg a Rhufain yw conglfeini gwareiddiad y gorllewin. Byddwch yn archwilio mytholeg, drama, athroniaeth, ffuglen, dychan, celf, pensaernïaeth a'r ieithoedd Groeg a Lladin.
Mae gradd yn y Clasuron yn eich galluogi i astudio ac archwilio gwareiddiadau a all ymddangos yn hen iawn ond sy'n dal i gael dylanwad yn yr 21ain ganrif.
Byddwch yn cael cyfle i dreulio tymor yn astudio dramor naill ai yn UDA, Canada, Tsieina, Hong Kong neu Singapôr yn ystod yr ail flwyddyn, gan wella eich profiad fel myfyriwr a'ch rhagolygon gyrfa ymhellach.