Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r Hen Aifft, gyda'i pharoaid, ei henebion crand a'i hieroglyffau, wedi ysgogi diddordeb ers miloedd o flynyddoedd. Yma yn Abertawe gallwch astudio ei chyfnod mawr mewn hanes a'i harferion diwylliannol ysgogol yn eu cyd-destun yn Affrica, y Lefant, a'r Môr Canoldir Groeg-rufeinig. Mae ein gradd tair blynedd wedi'i seilio ar ddysgu ar sail gwrthrychau, gan gynnig profiad ymarferol i chi gyda'r arteffactau yn ein hamgueddfa fewnol, sef y Ganolfan Eifftaidd. Hefyd, mae gennych yr opsiwn i ddysgu system iaith ac ysgrifennu hynafol yr Aifft, fel porth i archwilio i chi'ch hun eu testunau sydd wedi goroesi. Byddwch yn cael eich arfogi i ddeall sut y datblygodd cymdeithas yr Aifft dros filenia, o'r cyfnod neolithig tan y cyfnod pan goncrwyd dyffryn y Nîl gan Bersiaid, Groegiaid a Rhufeiniaid.