Trosolwg o'r Cwrs
Mae Eifftoleg a Hanes yr Henfyd yn astudio iaith, llenyddiaeth, hanes a diwylliant yr Hen Aifft a bydd dilyn y cwrs gradd cydanrhydedd BA tair blynedd hwn yn cynnig amrywiaeth o bosibiliadau gyrfa cyffrous drwy eich helpu i feithrin sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn rhoi llawer o werth arnynt.
Byddwch yn archwilio celf a phensaernïaeth yr Aifft, hanes a gwareiddiad yr Hen Aifft, archaeoleg, crefydd, rhyw a rhywedd, yr Hen Aifft a'r Deyrnas Ganol, hanes a chymdeithas y bydoedd Groegaidd a Rhufeinig, rhyfel ac ymerodraeth, ac yn dysgu iaith Groeg, Lladin neu Eiffteg.
Mae'r Flwyddyn Sylfaen yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i Addysg Uwch, yn rhoi'r sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth y mae eu hangen arnoch chi i fod yn llwyddiannus yn eich gradd israddedig. Mae'n ddelfrydol os bydd angen ychydig mwy o gymorth arnoch chi ar ôl addysg bellach neu'n dychwelyd i fyd addysg ar ôl blynyddoedd lawer.
Bydd y flwyddyn sylfaen o'r cwrs pedair blynedd hwn yn eich cyflwyno i'r prif gysyniadau a'r wybodaeth y mae eu hangen arnoch er mwyn symud ymlaen i'r BA mewn Eifftoleg a Hanes yr Henfyd. Ar ôl cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn symud ymlaen i Flwyddyn 1 y cwrs BA.
Bydd gennych opsiwn o dreulio semester dramor yn ystod eich ail flwyddyn, naill ai yn UDA, Canada, Tsieina, Hong Hong neu Singapôr er mwyn cyfoethogi eich profiad fel myfyriwr a'ch rhagolygon gyrfa.