Trosolwg o'r Cwrs
Mae Hanes yr Henfyd a Hanes Canoloesol yn ystyried ac yn archwilio gwareiddiadau a all ymddangos yn hen iawn ond sy'n dal i gael dylanwad hyd yn oed heddiw. Mae'r cwrs gradd BA tair blynedd hwn yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa cyffrous drwy eich helpu i ddatblygu sgiliau y mae cyflogwyr yn rhoi llawer o werth arnynt.
Bydd cyfle gennyt i archwilio hanes Ewrop a rhanbarthau Môr y Canoldir o'r hen Atheniaid a Phersiaid i'r Croesgadau, ac o'r Ymerodraeth Rufeinig i deyrnasoedd canoloesol Lloegr a Ffrainc yn ogystal ag 'oes y tywysogion' yng Nghymru, gan gymryd amrywiaeth o ymagweddau hanesyddol ac archaeolegol.