Trosolwg o'r Cwrs
Astudiwch y Cyfryngau a Chyfathrebu gyda ni a byddwch yn dysgu sgiliau ymarferol a fydd yn eich galluogi i ddilyn gyrfa gyffrous ym maes y cyfryngau, marchnata neu feysydd cysylltiedig, yn ogystal â sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn rhoi llawer o werth arnynt, gan arwain at amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa ehangach.
Mae'r Flwyddyn Sylfaen yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i Addysg Uwch, yn rhoi'r sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth y mae eu hangen arnoch chi i fod yn llwyddiannus yn eich gradd israddedig. Mae'n ddelfrydol os bydd angen ychydig mwy o gymorth arnoch chi ar ôl addysg bellach neu'n dychwelyd i fyd addysg ar ôl blynyddoedd lawer.
Cewch gyfle i ddysgu am gynhyrchu radio a fideo, cyfryngau digidol a chymdeithasol, newyddiaduraeth, cysylltiadau cyhoeddus, brandio, marchnata a mwy, gan ddysgu gan weithwyr proffesiynol profiadol yn y diwydiant ac academyddion blaenllaw.
Bydd lleoliad gwaith yn rhoi profiad uniongyrchol i chi o'r cyfryngau a chyfathrebu, a chewch gyfle i astudio semester dramor yn Hong Kong, Singapôr neu UDA.