Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r Flwyddyn Sylfaen yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i Addysg Uwch, yn rhoi'r sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth y mae eu hangen arnoch chi i fod yn llwyddiannus yn eich gradd israddedig. Mae'n ddelfrydol os bydd angen ychydig mwy o gymorth arnoch chi ar ôl addysg bellach neu'n dychwelyd i fyd addysg ar ôl blynyddoedd lawer.
Ar ôl symud ymlaen o'r flwyddyn sylfaen, cewch gyfle i astudio ein rhaglen sydd yn eich paratoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol fel creawdwr a chyfathrebwr cynnwys chwaraeon proffesiynol ar draws y cyfryngau cyfathrebu chwaraeon cyfoes.
Datblygwyd y cwrs hwn i sicrhau y byddwch yn graddio fel creawdwr cynnwys chwaraeon galluog a chymwys, sy’n meddu ar sgiliau newyddiadurol, ac sy’n fedrus wrth greu a hyrwyddo cynnwys amlgyfrwng sy’n canolbwyntio ar chwaraeon, o bodlediadau i adroddiadau ar gemau ac o sylwebaeth chwaraeon i strategaethau cyfathrebu chwaraeon hyrwyddol.