I ddysgu mwy am astudio dramor, ewch i'n tudalennau gwe Go Global. Nid yw cofrestru
ar raglen sy'n cynnwys semester/blwyddyn dramor yn gwarantu lleoliad gwaith
semester/blwyddyn dramor yn awtomatig. Mae nifer gyfyngedig o leoedd ar gael
ac yn amodol ar broses ddethol gystadleuol. Os na fyddwch chi'n llwyddo i ennill
lleoliad gwaith semester/blwyddyn dramor, cewch chi eich trosglwyddo i gwrs
safonol eich cynllun gradd heb semester neu flwyddyn dramor.
Mae rhaglenni rhyngwladol yr haf ar agor i fyfyrwyr o bob ysgol. Fel arfer, mae rhaglenni'n
para o 2 i 6 wythnos, ar draws cyrchfannau megis Sri Lanka, De Corea, Fiji, Bali,
UDA a ledled Ewrop. Am ragor o wybodaeth ynghylch rhaglenni a chymhwysedd, ewch i'n Haf Dramor.
Mae gan bob un o'n myfyrwyr opsiwn i astudio dramor. Mae ein gradd pedair blynedd yn cynnig blwyddyn gyfan dramor, ac rydym hefyd yn cynnig semester dramor ar gyfer graddau tair blynedd, rhwng mis Ionawr a mis Mai yn ystod yr ail flwyddyn, yn Hong Kong, Singapôr neu Unol Daleithiau America. Mae'r semester dramor yn rhan o raglen gyfnewid, felly byddwch yn talu ffioedd dysgu'r Deyrnas Unedig ac yn gyfrifol am y costau llety a byw ar gyfer y semester yn y sefydliad partner.