Trosolwg o'r Cwrs
Ar ein cwrs gradd Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, byddwch yn dysgu amrywiaeth o sgiliau ysgrifennu a fydd yn eich paratoi i ddilyn gyrfa fel awdur, gan gynnwys nofelau, dramâu, barddoniaeth, sgriptiau ffilmiau ac ysgrifennu ffeithiol.
Mae'r flwyddyn sylfaen yn rhoi cyflwyniad cyffrous i addysg uwch i chi, gan archwilio'r dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol cyn symud ymlaen i'r rhaglen gradd lawn. Mae'n ddelfrydol os oes angen ychydig mwy o gymorth arnoch ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd at addysg ar ôl cyfnod o amser.
Byddwch yn astudio amrywiaeth o arddulliau a genres, yn ogystal ag astudio hanes, traddodiadau a theori Llenyddiaeth Saesneg.
Cewch eich addysgu gan ysgrifenwyr profiadol y mae eu gwaith wedi cael ei gyhoeddi, ei ddarlledu a'i berfformio'n eang, yn ogystal â staff academaidd sy'n gydnabyddedig yn rhyngwladol am eu hymchwil.
Gallwch hefyd dreulio semester yn astudio yn UDA, Canada, Tsieina, Hong Kong neu Singapôr.