Ffarmacoleg Feddygol, BSc (Anrh) / MSci (Anrh)

Datblygu Meddyginiaethau’r Dyfodol

Students in Lab

Trosolwg o'r Cwrs

Dysgwch am yr wyddoniaeth sy'n gefndir i gyffuriau a meddyginiaethau, eu heffeithiau ar systemau byw a'u rôl wrth drin clefydau drwy astudio ein cwrs gradd Ffarmacoleg Feddygol.

Byddwch yn astudio amrywiaeth eang o bynciau, gan gynnwys ffarmacoleg, tocsicoleg, ffarmacogenomeg, ffisioleg, cemeg, geneteg, imiwnoleg a datblygu cyffuriau. Byddwch yn gallu teilwra eich astudiaethau i gyd-fynd â'ch diddordebau eich hun, gan ddewis o fodiwlau dewisol sy'n cynnwys gwyddoniaeth gardiofasgwlaidd, diabetes, ffarmacoleg canser, bioleg atgenhedlu, niwrowyddoniaeth a nanodocsicoleg.

Byddwch yn datblygu sgiliau dadansoddi a rheoli prosiectau ardderchog ac yn dysgu sut i ddylunio arbrofion a chynllunio rhaglenni gwaith i'ch paratoi chi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.

Pam astudio Ffarmacoleg Feddygol ym Prifysgol Abertawe?

Datblygwyd cwricwlwm y cwrs Ffarmacoleg Feddygol gan ddefnyddio Cwricwlwm Israddedig Cymdeithas Ffarmacolegol Prydain, sydd â'r nod o ddatblygu gwybodaeth graidd, sgiliau craidd ac agweddau craidd yn y genhedlaeth nesaf o ffarmacolegwyr. Mae'r cwrs hefyd yn arddel egwyddorion cynhwysol Cymdeithas Ffarmacolegol Prydain ar gyfer Ffarmacoleg Israddedig, y mae Cyfarwyddwr ein Rhaglen, Dr Aidan Seeley, wedi helpu i'w datblygu.

Mae'r cymysgedd o fodiwlau gorfodol a dewisol yn eich galluogi  i deilwra eich astudiaethau yn unol â'ch diddordebau penodol, eich nodau gyrfaol neu eich cynlluniau ar gyfer astudio ôl-raddedig.

Byddwch yn elwa o gael mynediad i'r cyfleusterau ymchwil ac addysgu sydd o'r radd flaenaf yn yr Ysgol Feddygaeth, gan gynnwys ein labordai ymchwil.

Mae’r radd hon yn rhan o’r rhaglen Llwybr i Feddygaeth ‘Gwyddorau Meddygol mewn Ymarfer’. Cyn belled â’ch bod yn bodloni’r gofynion mynediad, ac wedi dilyn y Llwybr hwn, gallwn eich gwarantu y cewch gyfweliad ar gyfer ein cwrs MBBCh Meddygaeth i Raddedigion.

Eich profiad ym maes Ffarmacoleg Feddygol

Ar y cynllun BSc 3 blynedd, byddwch yn ymgymryd â chymysgedd o fodiwlau gorfodol a dewisol, gan roi'r cyfle i chi deilwra eich gradd i'ch diddordebau penodol, eich uchelgeisiau o ran gyrfa neu eich cynlluniau ar gyfer astudiaethau pellach.

Mae treulio blwyddyn dramor yn ystod eich gradd israddedig yn eich caniatáu i ychwanegu profiad rhyngwladol gwerthfawr i'ch CV, wrth feithrin sgiliau cyfathrebu rhyngddiwylliannol a fydd yn gwella eich gallu i ryngweithio â phobl o gefndiroedd amrywiol.

Mae ein cwrs MSci 4 blynedd yn radd israddedig uwch sydd â blwyddyn Meistr integredig a byddwch chi'n treulio'r flwyddyn ychwanegol yn ymgymryd â phrosiect ymchwil, gan eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau a'ch gwybodaeth.

Os wyt ti'n poeni am fodloni ein gofynion mynediad, beth am ystyried ein BSc neu MSci Ffarmacoleg Feddygol gyda Blwyddyn Sylfaen. Bydd blwyddyn sylfaen y cwrs yn eich cyflwyno i’r cysyniadau a'r wybodaeth allweddol y bydd eu hangen arnoch chi er mwyn i chi ymgymryd â'r cwrs BSc/MSci mewn Ffarmacoleg Feddygol. Ar ôl iddynt gwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus gyda marc cyfartalog cyffredinol o o leiaf 60%, bydd myfyrwyr yn symud i Flwyddyn 1 y BSc neu'r MSci.

Cyfleoedd Cyflogaeth Ffarmacoleg Feddygol

Mae Ffarmacoleg Feddygol wedi cael ei hadnabod fel gradd israddedig hanfodol y mae ei hangen i lenwi'r bylchau yn y gweithlu presennol a mynd i'r afael â bylchau sgiliau ym maes datblygu meddyginiaethau a chynhyrchion fferyllol.

Gallech hefyd ddilyn gyrfa neu barhau â’ch astudiaethau mewn meysydd eraill sy’n cynnwys gwaith ymchwil academaidd a diwydiannol, rheoleiddio, cyfraith patentau, ysgrifennu meddygol, addysg neu dreialon clinigol.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Ffarmacoleg Feddygol

Ffarmacoleg Feddygol

Ffarmacoleg Feddygol gyda Blwyddyn ar Leoliad

Ffarmacoleg Feddygol gyda Blwyddyn Dramor