Ffarmacoleg Feddygol, BSc (Anrh) / MSci (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Students in Lab

Trosolwg o'r Cwrs

Darganfyddwch yr wyddoniaeth wrth wraidd cyffuriau a meddyginiaethau, eu heffeithiau ar systemau byw, a'r rôl y maent yn ei chwarae wrth drin clefydau drwy astudio Ffarmacoleg Feddygol ym Mhrifysgol Abertawe.

Drwy gydol y cwrs, byddwch yn astudio pynciau gan gynnwys tocsicoleg, ffisioleg, biocemeg, geneteg, imiwnoleg a datblygu cyffuriau. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau rhagorol mewn perthynas â dadansoddi a rheoli prosiectau wrth i chi ddylunio arbrofion a chynllunio rhaglenni gwaith i baratoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.

Byddwch yn cael eich annog i herio'r doethineb cyffredin ym mhob maes y gwyddorau meddygol a'r gwyddorau bywyd, gwerthfawrogi cyfyngiadau presennol, a datblygiadau yn y dyfodol, o'n dealltwriaeth bresennol o iechyd a chlefydau.

Byddwch yn cael dealltwriaeth gyfannol o natur amlddisgyblaethol ffarmacoleg a'r cydweithrediad sydd ei angen i lwyddo mewn maes sy'n cyfuno arloesi mewn ymchwil, gofal cleifion a menter fasnachol.

Gyda chymysgedd o fodiwlau gorfodol a dewisol, gallwch ddewis trywydd eich astudiaethau, gan alinio'r rhain â'ch diddordebau, eich nodau gyrfa, neu astudiaethau yn y dyfodol.

Mae'r Flwyddyn Sylfaen ddewisol sy'n rhan o'r rhaglen hon yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i addysg uwch, ac yn sicrhau bod gennych y sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch chi i fod yn llwyddiannus yn eich gradd israddedig. Mae'n ddelfrydol os bydd angen ychydig mwy o gymorth arnoch chi ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd i fyd addysg ar ôl blynyddoedd lawer. Ar ôl i chi gwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, byddwch chi'n symud ymlaen i Flwyddyn 1 eich gradd BSc.

Mae'r rhaglen hon ar gael hefyd fel MSci 4 blynedd, sef gradd israddedig uwch, gan ychwanegu blwyddyn sy'n canolbwyntio ar ymchwil at eich gradd.   Mae ein rhaglen MSci yn arwain at gymhwyster meistr, yn ogystal â'ch gradd israddedig, gan roi i chi hyfforddiant gwyddonol gan arbenigwyr a llwybr at amrywiaeth o yrfaoedd arbenigol.

Pam astudio Ffarmacoleg Feddygol ym Prifysgol Abertawe?

Mae Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe yn gartref i gyfleusterau ymchwil ac addysgu o'r radd flaenaf, a byddwch yn astudio ar ein Campws Parc Singleton, mewn parcdir hyfryd â golygfeydd dros Fae Abertawe, yn agos at Benrhyn Gŵyr.

Wrth i chi baratoi i ymuno â'r genhedlaeth nesaf o ffarmacolegwyr, byddwch yn cael defnyddio ein labordai ymchwil, dysgu mewn modd ymarferol yn ogystal ag ennill profiad ymarferol.

Mae Ffarmacoleg Feddygol ym Mhrifysgol Abertawe yn y safleoedd canlynol:

  • Yr 8fed safle yn y DU (Guardian University Guide 2026)
  • Y 3ydd safle yn y DU am Ragolygon Gyrfa (Guardian University Guide 2026)
  • Y 4ydd safle yn y DU am Ymchwil (Times Good University Guide 2026)

Gan mai dyma un o'n cyrsiau Llwybrau i Feddygaeth, ar yr amod eich bod yn bodloni'r gofynion mynediad ar gyfer Meddygaeth i Raddedigion, a'ch bod chi wedi cwblhau'r llwybr yn llwyddiannus, byddwch yn sicr o gael cyfweliad ar gyfer ein cwrs blaenllaw Meddygaeth (i Raddedigion) MBBCh.

Eich profiad ym maes Ffarmacoleg Feddygol

Wedi'i llunio gan Gwricwlwm Israddedig Cymdeithas Ffarmacolegol Prydain, mae ein rhaglen yn pontio meddygaeth glinigol a gwyddoniaeth sylfaenol, ac yn datblygu eich gwybodaeth, eich sgiliau a'ch agweddau craidd, gan eich paratoi i ymuno â'r genhedlaeth nesaf o ffarmacolegwyr.

Mae cyflogadwyedd wrth wraidd ein cwrs, ac wrth i chi symud ymlaen drwy'r cwrs byddwch yn dod i gysylltiad ag amrywiaeth o opsiynau cyflogadwyedd sydd ar gael i chi ar ôl graddio. Wrth i chi symud ymlaen drwy ein cwrs, gallwch ddewis canolbwyntio ar un o dri llinyn cyflogadwyedd:

  • Ymchwil Feddygol
  • Mentergarwch ac Arloesi
  • Gwyddor Feddygol ar Waith

Byddwch yn cael eich tywys o'r diwrnod cyntaf gan ein tîm academaidd arbenigol mewn amgylchedd dysgu sy'n meithrin y gallu i ddatrys problemau mewn modd creadigol, ac arloesi.

Mae'r rhaglen hon yn cynnwys cyfleoedd i dreulio Blwyddyn Dramor, gan wella'ch dysgu a chynnig profiad bywyd amhrisiadwy.

Mae'r cwrs hwn hefyd yn cynnig y cyfle i chi dreulio Blwyddyn ym myd Diwydiant, yn y DU neu dramor, gan eich galluogi i ennill profiad gwerthfawr yn y gweithle. Mae'r Brifysgol yn ffafrio lleoliadau â thâl yn unig, sydd â chyflog gwerth mwy nag £20,000 ar gyfartaledd. Mae lleoliadau di-dâl yn cael eu hystyried fesul achos.

Cyfleoedd Cyflogaeth Ffarmacoleg Feddygol

Ar ôl graddio o'n gradd Ffarmacoleg Feddygol, bydd gennych ragolygon gyrfa cryf a byddwch yn barod ar gyfer ystod eang o gyfleoedd mewn cyrchfannau fel:

  • Proffesiynau iechyd a phroffesiynau perthynol i iechyd
  • Ymchwil wyddonol
  • Treialon clinigol
  • Tocsicoleg
  • Ffarmacoleg
  • Datblygu cynnyrch biofeddygol

Mae astudiaethau pellach yn boblogaidd ymhlith graddedigion Ffarmacoleg Feddygol, ac mae llawer ohonynt yn ymgymryd â graddau Meistr neu PhD, neu'n dewis cynlluniau hyfforddi'r GIG fel y Rhaglen Hyfforddi Gwyddonwyr.

Fel Llwybr i Feddygaeth, mae ein rhaglen hefyd yn sylfaen ardderchog i raddedigion hyfforddi am rolau â ffocws mwy clinigol, gan gynnwys Meddygaeth i Raddedigion (MBBCh).

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Ffarmacoleg Feddygol, BSc (Anrh)

Ffarmacoleg Feddygol gyda Blwyddyn Sylfaen, MSci (Anrh)

Medical Pharmacology with a Year Abroad, MSci (Anrh)

Ffarmacoleg Feddygol, MSci (Anrh)

Medical Pharmacology with a Placement Year, MSci (Anrh)

Medical Pharmacology with a Year Abroad, MSci (Anrh)

Medical Pharmacology with a Placement Year, MSci (Anrh)

Ffarmacoleg Feddygol gyda Blwyddyn Sylfaen, BSc (Anrh)

Ffarmacoleg Feddygol gyda Blwyddyn ar Leoliad, BSc (Anrh)

Ffarmacoleg Feddygol gyda Blwyddyn Dramor, BSc (Anrh)

Ffarmacoleg Feddygol gyda Blwyddyn Sylfaen ac gyda Blwyddyn Dramor, BSc (Anrh)