Trosolwg o'r Cwrs
Os oes gennych ddiddordeb yn y “peth mawr nesaf mewn gofal iechyd”, ond nid oes gennych y cymwysterau mynediad y mae eu hangen er mwyn ymuno â’n rhaglen BSc, neu os ydych chi’n fyfyriwr aeddfed sy’n dychwelyd i addysg, ein BSc gyda Blwyddyn Sylfaen yw’r cwrs cywir i chi.
Bydd blwyddyn sylfaen y cwrs pedair blynedd hwn yn eich cyflwyno i’r cysyniadau a’r wybodaeth allweddol yn y gwyddorau meddygol cymhwysol y bydd arnoch eu hangen er mwyn mynd ymlaen i’r BSc mewn Gwyddorau Meddygol ac Iechyd Poblogaethau. Ar ôl cwblhau’r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus gyda chyfartaledd cyffredinol o 60% , bydd myfyrwyr yn mynd ymlaen i Flwyddyn 1 y BSc.
Bydd y radd hon yn rhoi ichi sylfaen gadarn yn y gwyddorau meddygol a bywyd, y gwyddorau cymdeithasol, epidemioleg, demograffeg, iechyd cyhoeddus a hysbyseg iechyd.
Wrth fynd ymlaen i’r BSc llawn, byddwch hefyd yn datblygu’r wybodaeth academaidd a phroffesiynol sydd ei hangen er mwyn pennu amrywiadau systematig o ran iechyd unigolion a phoblogaethau, yn ogystal â’r sgiliau a’r profiad i ddefnyddio’r wybodaeth hon ar gyfer atebion ymarferol er mwyn gwella iechyd, lles, a darparu gwasanaethau iechyd.