Trosolwg o'r Cwrs
Cymerwch y cam cyntaf tuag at amrywiaeth o yrfaoedd cyffrous mewn busnes a'r gyfraith fasnachol gyda'n rhaglen radd LLB arbenigol.
Byddwch yn meithrin dealltwriaeth gynhwysfawr o feysydd craidd gradd yn y Gyfraith. Wrth i'ch astudiaethau fynd yn eu blaenau, gallwch ddewis o amrywiaeth eang o feysydd pwnc gyda ffocws busnes, gan gynnwys y gyfraith fasnachol, cyfraith y cyfryngau, gwerthiannau masnachol, a chyfraith cyflogaeth.
Trwy gydol eich gradd gydanrhydedd, byddwch yn datblygu sgiliau ymchwil a dadansoddi ardderchog a’r gallu i gyfleu eich syniadau’n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Mae ein holl raglenni israddedig y Gyfraith yn cynnwys sylfeini gwybodaeth gyfreithiol y mae ei hangen i ddechrau gyrfa fel cyfreithiwr. Mae ein rhaglenni’n darparu sylfaen gadarn i fyfyrwyr sydd am sefyll yr Arholiadau Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE) yn y dyfodol, ac yn bodloni cyfnod academaidd yr hyfforddiant sy’n ofynnol gan Fwrdd Safonau’r Bar i’r myfyrwyr sydd am fod yn fargyfreithwyr.
Os hoffech gwblhau LLB 4 blynedd gyda blwyddyn yn ymarfer, ewch i dudalen ein cwrs LLB Cyfraith Busnes ar Waith.