Cyfraith Busnes ar Waith, LLB (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
A group of students in class at the school of law

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r LLB Cyfraith Busnes Ar Waith ym Mhrifysgol Abertawe yn rhaglen arbenigol am bedair blynedd sy'n eich paratoi ar gyfer gyrfaoedd ar y croestoriad rhwng y gyfraith a byd busnes, wrth hefyd roi profiad gwerthfawr i chi yn y gweithle.

Wedi'i seilio ar ymrwymiad i ragoriaeth academaidd ac wedi'i llywio gan ymchwil, mae'r rhaglen yn cyfuno damcaniaeth ac ymarfer, gan eich galluogi i gael dealltwriaeth fanwl o sut mae fframweithiau cyfreithiol yn gweithio mewn cyd-destunau busnes, economaidd a byd-eang ehangach. Bydd gofyn i chi ymdrin yn feirniadol ag egwyddorion cyfreithiol a'u heffaith ar weithgarwch masnachol, gan ddatblygu meddwl dadansoddol, rhesymu moesegol, a safbwynt byd-eang.

Byddwch yn datblygu dealltwriaeth gynhwysfawr o sylfeini gwybodaeth gyfreithiol, gan gynnwys Cyfraith Contractau, Cyfraith Camwedd, Cyfraith Trosedd, Cyfraith Gyhoeddus, Cyfraith Tir, Ecwiti ac Ymddiriedau, a Chyfraith yr UE. Mae'r pynciau craidd hyn yn bodloni cam academaidd yr hyfforddiant sy’n ofynnol gan Fwrdd Safonau'r Bar, ac yn cynnig sylfaen gref i'r rhai hynny sy'n dymuno sefyll yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr.

Yn nhrydedd flwyddyn eich gradd LLB, byddwch yn ymgymryd ag interniaeth â thâl gyda chyflogwr mewn lleoliad cyfreithiol. Bydd hyn yn eich galluogi i gael profiad o ymarfer cyfreithiol yn uniongyrchol, a meithrin sgiliau allweddol a fydd yn ddefnyddiol dros ben yn eich gyrfa yn y dyfodol.

Wrth i'ch astudiaethau fynd rhagddynt, gallwch ddatblygu arbenigedd drwy fodiwlau busnes gorfodol megis Cyfraith Cwmnïau, Cyfraith Masnach Ryngwladol a Gwerthiannau Masnachol  gydag ystod eang o fodiwlau dewisol. Mae'r hyblygrwydd hwn yn eich galluogi i ddilyn eich diddordebau wrth feithrin proffil cyfraith busnes cryf.

Pam Cyfraith Busnes ar Waith yn Abertawe?

Fel myfyriwr yn Ysgol y Gyfraith, byddwch yn rhan o gymuned academaidd gefnogol lle mae eich llais yn bwysig. Mae tîm y rhaglen yn gweithio mewn partneriaeth â'n myfyrwyr i lunio dulliau addysgu a dylunio'r cwricwlwm, gan sicrhau bod dysgu yn parhau i fod yn arloesol ac yn ymatebol i'ch anghenion.

Byddwch yn cael lefel uchel o gymorth personol drwy gydol eich taith er mwyn darparu'r cyfleoedd gorau posibl i chi lwyddo. Mae hyn yn cynnwys tiwtoriaid personol ymroddedig, rhaglen sefydlu wedi'i chynllunio'n ofalus, gweithdai datblygu sgiliau, cyngor a chymorth cyflogadwyedd parhaus, ac ystod o weithgareddau allgyrsiol.

Mae gan Brifysgol Abertawe enw da sefydledig sy’n parhau i ddatblygu ym maes addysgu ac ymchwil y gyfraith. Mae Ysgol y Gyfraith yn cael ei chydnabod fel ffynhonnell arbenigedd, ac fel un sy'n cael effaith ar bolisi ac ymarfer mewn ystod amrywiol o feysydd.

Mae Adran y Gyfraith yn Abertawe yn y safleoedd canlynol:

  • Un o’r 125 o’r Adrannau Gorau yn y Byd (Safleoedd Prifysgolion y Byd Times Higher Education yn ôl Pwnc 2026)

Un o 101-150 brifysgolion gorau’r byd (Safleoedd Prifysgolion y Byd yn ôl Pwnc QS 2025)

Eich Profiad o Gyfraith Busnes ar Waith

Mae ein  rhaglen Cyfraith Busnes ar Waith yn rhoi pwyslais cryf ar sicrhau bod gennych y sgiliau angenrheidiol ar gyfer bywyd proffesiynol. Mae'r cwricwlwm wedi'i gynllunio'n ofalus i adlewyrchu tirwedd ddatblygol addysg gyfreithiol, gan gynnwys y newidiadau a gyflwynwyd gan yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE), wrth gynnal gwerth gradd draddodiadol yn y gyfraith.

Byddwch yn cael eich cefnogi drwy gydol y rhaglen i ddatblygu ystod eang o sgiliau, megis ysgrifennu cyfreithiol, cyflwyniad llafar a datrys problemau. Mae cynnwys asesiadau cwestiynau amlddewis, sy'n nodwedd allweddol o'r SQE, yn sicrhau ymhellach eich bod wedi'ch paratoi ar gyfer gofynion proffesiynol cyfoes.

Yn ogystal â'ch Blwyddyn mewn Ymarfer, mae cyfleoedd i gael profiad yn y byd go iawn wedi'u hymgorffori drwy gydol y radd, gan gynnwys cymryd rhan yng Nghlinig y Gyfraith, lle gallwch ddarparu cyngor i gleientiaid dan oruchwyliaeth, ac mae cyfleoedd i gymryd rhan mewn cystadlaethau ffug lys barn, negodi a chyfweld â chleientiaid.

Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn astudio modiwlau sylfaenol gorfodol, gan gynnwys Cyfraith Gyhoeddus, Cyfraith Contractau, Cyfraith Camwedd a Sgiliau Cyfreithiol (Y Gyfraith, Proffesiynoldeb a Moeseg). Mae'r ail flwyddyn yn cynnwys mwy o fodiwlau gorfodol, gan gynnwys Cyfraith Tir, Ecwiti, Cyfraith Trosedd a Gwerthiannau Masnachol, ynghyd ag un modiwl dewisol sy'n eich galluogi i astudio pwnc sy'n benodol i'ch diddordebau a’ch uchelgeisiau. Byddwch yn treulio eich trydedd flwyddyn yn gyfan gwbl ar leoliad mewn lleoliad cyfreithiol addas.

Yn y bedwaredd flwyddyn, byddwch yn astudio Cyfraith yr UE, Cyfraith Masnach Ryngwladol a Chyfraith Cwmnïau.  Mae'r 60 credyd sy'n weddill yn opsiynol, gan roi'r gallu i chi ddewis o ystod eang o fodiwlau arbenigol sy'n rhychwantu ystod eang o feysydd. Erbyn hyn, byddwch wedi astudio'r holl bynciau sylfaenol a bydd gennych yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth i wneud y gorau o'ch modiwlau dewisol.

Mae'r rhaglen yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau addysgu ac asesu i ddarparu ar gyfer gwahanol arddulliau a dewisiadau dysgu. Mae’r dulliau addysgu yn cynnwys darlithoedd rhyngweithiol, seminarau, addysg gyfreithiol glinigol, a chyfleoedd dysgu drwy brofiad. Defnyddir offer digidol fel arolygon byw a chwisiau hefyd i wella ymgysylltiad a chyfranogiad, gan sicrhau y gallwch gyfrannu'n weithredol at eich profiad dysgu eich hun. Mae’r dulliau asesu yn cynnwys ystod eang o wahanol ddulliau, yn amrywio o arholiadau traddodiadol i gyflwyniadau llafar a briffio cyfreithiol.

Os hoffech gwblhau LLB 3 blynedd heb flwyddyn yn ymarfer, ewch i dudalen ein cwrs LLB Cyfraith Busnes.

Cyfleoedd Cyfraith Busnes ar Waith

Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio gyda chyflogadwyedd wrth ei gwraidd. Byddwch yn cael cyfle i feithrin sgiliau ymarferol mewn ymchwil gyfreithiol, eiriolaeth a negodi, yn ogystal â chyfathrebu'n ysgrifenedig ac ar lafar drwy gymryd rhan mewn seminarau a dysgu drwy brofiad.

Mae gan Ysgol y Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe nifer o gysylltiadau yn y proffesiwn cyfreithiol. Drwy'r rhain, mae rhaglenni profiad gwaith ar gael ar gyfer lleoliadau haf mewn cwmnïau cyfreithwyr, siambrau bargyfreithwyr a phroffesiynau cysylltiedig. Rydym hefyd yn rhannu cyfleoedd cyflogadwyedd drwy ein platfformau mewnol ac ar ein tudalen LinkedIn i raddedigion, i'ch cefnogi i sicrhau cyflogaeth.

Ym mhob semester, rydym yn cynnal 'diwrnod asesu', i'ch galluogi i ymarfer eich sgiliau drafftio CV, cyfweld a datrys problemau. Rydym hefyd yn cynnal digwyddiad 'gyrfaoedd ychwanegol' bob blwyddyn i'ch galluogi i archwilio rhagolygon gyrfa eraill y tu allan i'r llwybrau traddodiadol sef Cyfreithiwr neu Fargyfreithiwr.

Cynhelir darlithoedd gwadd a gweithdai allgyrsiol drwy gydol y flwyddyn. Mae'r rhain yn cael eu cyflwyno gan Gyfreithwyr a Bargyfreithwyr, a sefydliadau fel Comisiwn y Gyfraith, gan roi mewnwelediadau gyrfa amhrisiadwy i chi, ac yn eich cysylltu ag aelodau allweddol o'r proffesiwn.

Mae graddedigion y rhaglen LLB Cyfraith Busnes yn ennill y sgiliau i ddilyn ystod eang o yrfaoedd, gan gynnwys fel cyfreithwyr a bargyfreithwyr, yn ogystal â rolau yn y sectorau busnes, cyllid, masnach ryngwladol a chyhoeddus.

Mae gan y radd LLB Cyfraith Busnes ar Waith  hanes profedig o gyflwyno addysg o safon sy'n galluogi myfyrwyr i feithrin yr wybodaeth, y sgiliau a'r hyder i gyflawni eu dyheadau gyrfaol. 

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Cyfraith Busnes ar Waith, LLB (Anrh)