Y Gyfraith gyda Blwyddyn Sylfaen, LLB (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Students in class together

Trosolwg o'r Cwrs

Mae gradd LLB y Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe wedi'i chynllunio'n ofalus i fod yn rhaglen ddeallusol drylwyr ac arloesol sy'n eich paratoi ar gyfer ystod eang o yrfaoedd.

Wedi'i seilio ar ymrwymiad i ragoriaeth academaidd  ac wedi'i llywio gan ymchwil, mae'r rhaglen yn cyfuno damcaniaeth ac ymarfer, gan eich galluogi i ddatblygu dealltwriaeth fanwl o sut mae'r gyfraith yn gweithio yn ei chyd-destun cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd ehangach. Bydd gofyn i chi ymdrin yn feirniadol ag egwyddorion cyfreithiol a'u heffaith ar gymdeithas, gan ddatblygu sgiliau meddwl yn ddadansoddol, rhesymu moesegol, a safbwynt byd-eang.

Byddwch yn datblygu dealltwriaeth gynhwysfawr o sylfeini gwybodaeth gyfreithiol, gan gynnwys Cyfraith Contractau, Cyfraith Camwedd, Cyfraith Trosedd, Cyfraith Gyhoeddus, Cyfraith Tir, Ecwiti ac Ymddiriedau a Chyfraith yr UE. Mae'r pynciau craidd hyn yn bodloni cam academaidd yr hyfforddiant sy’n ofynnol gan Fwrdd Safonau'r Bar, ac yn cynnig sylfaen gref i'r rhai hynny sy'n dymuno sefyll yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE).

Wrth i'ch astudiaethau fynd rhagddynt, gallwch deilwra'ch gradd drwy ystod eang o fodiwlau dewisol mewn meysydd fel Hawliau Dynol, Cyfraith Feddygol, Seiberdroseddu, Cyfraith Amgylcheddol, Cyfraith Teulu a Masnach Ryngwladol. Mae'r hyblygrwydd hwn yn eich galluogi i ddilyn eich diddordebau wrth ddatblygu arbenigedd.

Pam y Gyfraith gyda Blwyddyn Sylfaen yn Abertawe?

Fel myfyriwr yn Ysgol y Gyfraith, byddwch yn rhan o gymuned academaidd gefnogol lle mae eich llais yn bwysig. Mae tîm y rhaglen yn gweithio mewn partneriaeth â'n myfyrwyr i lunio dulliau addysgu a dylunio'r cwricwlwm, gan sicrhau bod eich dysgu yn parhau i fod yn arloesol ac yn ymatebol i'ch anghenion.

Byddwch yn cael lefel uchel o gymorth personol drwy gydol eich taith er mwyn darparu'r cyfleoedd gorau posibl i chi lwyddo. Mae hyn yn cynnwys tiwtoriaid personol ymroddedig, rhaglen sefydlu wedi'i chynllunio'n ofalus, gweithdai datblygu sgiliau, cyngor a chymorth cyflogadwyedd parhaus, ac ystod o weithgareddau allgyrsiol.

Mae gan Brifysgol Abertawe enw da sefydledig sy’n parhau i ddatblygu ym maes addysgu ac ymchwil y gyfraith. Mae Ysgol y Gyfraith yn cael ei chydnabod fel ffynhonnell arbenigedd, ac fel un sy'n cael effaith ar bolisi ac ymarfer mewn ystod amrywiol o feysydd.

Mae’r Gyfraith yn Abertawe yn y safleoedd canlynol:

  • Un o’r 125 o Raglenni Gorau o’u Bath yn y Byd (Safleoedd Prifysgolion y Byd Times Higher Education yn ôl Pwnc 2026)
  • Ymhlith y 101-150 o Raglenni Gorau o’u Bath yn y Byd (Safleoedd Prifysgolion y Byd yn ôl Pwnc QS 2025)

Eich profiad Gyfraith gyda Blwyddyn Sylfaen

Mae ein rhaglen LLB yn rhoi pwyslais cryf ar sicrhau bod gennych y sgiliau angenrheidiol ar gyfer bywyd proffesiynol. Mae'r cwricwlwm wedi'i gynllunio'n ofalus i adlewyrchu tirwedd ddatblygol addysg gyfreithiol, gan gynnwys y newidiadau a gyflwynwyd gan yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE), wrth gynnal gwerth gradd draddodiadol yn y gyfraith.

Byddwch yn cael eich cefnogi drwy gydol y rhaglen i ddatblygu ystod eang o sgiliau, megis ysgrifennu cyfreithiol, cyflwyniad llafar a datrys problemau. Mae cynnwys asesiadau cwestiynau amlddewis, sy'n nodwedd allweddol o'r SQE, yn sicrhau eich bod wedi'ch paratoi ar gyfer gofynion proffesiynol cyfoes.

Mae cyfleoedd i gael profiad yn y byd go iawn wedi'u hymgorffori drwy gydol y radd, gan gynnwys cymryd rhan yng Nghlinig y Gyfraith, lle gallwch ddarparu cyngor i gleientiaid dan oruchwyliaeth, ac mae cyfleoedd i gymryd rhan mewn cystadlaethau ffug lys barn, negodi a chyfweld â chleientiaid.

Mae'r LLB wedi'i strwythuro er mwyn rhoi dealltwriaeth drylwyr i chi o sylfeini gwybodaeth gyfreithiol, wrth greu'r hyblygrwydd sy'n eich galluogi i deilwra'ch astudiaethau i'ch diddordebau a'ch dyheadau chi, a all gynnwys ystod o sectorau oherwydd amrywiaeth y modiwlau sydd ar gael.

Mae'r rhaglen hon yn cynnwys cyfleoedd i dreulio Blwyddyn Dramor mewn lleoliadau megis Gogledd America, Ewrop neu Ddwyrain Asia, gan wella eich dysgu a chynnig profiad bywyd amhrisiadwy.

Mae'r Flwyddyn Sylfaen yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i addysg uwch, yn rhoi'r sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth y mae eu hangen arnoch chi i fod yn llwyddiannus yn eich gradd israddedig. Mae'n ddelfrydol os bydd angen ychydig mwy o gymorth arnoch chi ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd i fyd addysg ar ôl seibiant. Bydd y Flwyddyn Sylfaen (lefel 3) yn cael ei chyflwyno gan Y Coleg, Prifysgol Abertawe  ar Gampws y Bae. Bydd Blynyddoedd 2-4 (lefelau 4-6) yn cael eu cyflwyno gan Ysgol y Gyfraith ar Gampws Singleton.

Y Gyfraith gyda Blwyddyn Sylfaen Cyfleoedd Cyflogaeth

Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio gyda chyflogadwyedd wrth ei gwraidd. Byddwch yn cael cyfle i feithrin sgiliau ymarferol mewn ymchwil gyfreithiol, eiriolaeth a negodi, yn ogystal â chyfathrebu'n ysgrifenedig ac ar lafar drwy gymryd rhan mewn seminarau a dysgu drwy brofiad.

Mae gan Ysgol y Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe nifer o gysylltiadau yn y proffesiwn cyfreithiol. Drwy'r rhain, mae rhaglenni profiad gwaith ar gael ar gyfer lleoliadau haf mewn cwmnïau cyfreithwyr, siambrau bargyfreithwyr a phroffesiynau cysylltiedig. Rydym hefyd yn rhannu cyfleoedd cyflogadwyedd drwy ein platfformau mewnol ac ar ein tudalen LinkedIn i raddedigion, i'ch cefnogi i sicrhau cyflogaeth.

Ym mhob semester, rydym yn cynnal 'diwrnod asesu', i'ch galluogi i ymarfer eich sgiliau drafftio CV, cyfweld a datrys problemau. Rydym hefyd yn cynnal digwyddiad 'gyrfaoedd ychwanegol' bob blwyddyn i'ch galluogi i archwilio rhagolygon gyrfa eraill y tu allan i'r llwybrau traddodiadol sef Cyfreithiwr neu Fargyfreithiwr.

Cynhelir darlithoedd gwadd a gweithdai allgyrsiol drwy gydol y flwyddyn. Mae'r rhain yn cael eu cyflwyno gan Gyfreithwyr a Bargyfreithwyr, a sefydliadau fel Comisiwn y Gyfraith, gan roi mewnwelediadau gyrfa amhrisiadwy i chi, ac yn eich cysylltu ag aelodau allweddol o'r proffesiwn.

Mae graddedigion yn mynd ymlaen i weithio mewn amrywiaeth o rolau yn y proffesiwn cyfreithiol, gan gynnwys fel cyfreithwyr, bargyfreithwyr neu gynorthwywyr cyfreithiol. Mae cyrchfannau graddedigion nodweddiadol eraill yn cynnwys:

  • Yr heddlu
  • Y Gwasanaeth Prawf
  • Awdurdodau lleol a'r Gwasanaeth Sifil
  • Y sector ariannol
  • Adnoddau Dynol
  • Elusennau a chyrff anllywodraethol

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Y Gyfraith gyda Blwyddyn Sylfaen, LLB (Anrh)