Trosolwg o'r Cwrs
Mae ein LLB yn y Gyfraith gyda Chysylltiadau Rhyngwladol yn cynnig gradd yn y Gyfraith ynghyd ag archwiliad o'r perthnasoedd a'r patrymau ymddygiad a geir rhwng cenhedloedd, eu harweinwyr a sefydliadau.
Byddwch yn meithrin dealltwriaeth gynhwysfawr o feysydd craidd gradd yn y Gyfraith. Wrth i'ch astudiaethau fynd rhagddynt, gallwch ddewis o blith ystod eang o feysydd pwnc arbenigol yn y gyfraith gyda rhestr helaeth o dros 40 o fodiwlau dewisol i ddewis ohonynt. Ochr yn ochr â hyn, byddwch yn dysgu am werth perthnasoedd heddychlon rhwng cenhedloedd, gan ganolbwyntio ar themâu megis globaleiddio, gwleidyddiaeth ryngwladol, heddwch a gwrthdaro, a strategaethau grym.
Drwy gydol eich gradd byddwch yn meithrin sgiliau ymchwil a dadansoddol rhagorol, gan ddysgu cyflwyno eich syniadau'n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig, ac yn elwa o'n dull a arweinir gan ymarfer o ymdrin â'r gyfraith a'i pherthynas â chysylltiadau rhyngwladol.
Mae pob un o'n rhaglenni israddedig yn y Gyfraith yn cynnwys sylfeini gwybodaeth gyfreithiol y mae eu hangen i ddechrau yn y proffesiwn cyfreithiol. Mae ein rhaglenni'n darparu sylfaen gref i fyfyrwyr a allai ddymuno sefyll Arholiadau Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE) yn y dyfodol, ac maent yn bodloni'r cam academaidd o'r hyfforddiant sy'n ofynnol gan Fwrdd Safonau'r Bar i'r rhai sy'n dymuno dod yn fargyfreithwyr.
Os hoffech gwblhau gradd LLB 4 blynedd gyda blwyddyn yn ymarfer, ewch i dudalen ein cwrs LLB yn y Gyfraith ar Waith gyda Chysylltiadau Rhyngwladol.