Mae'r LLB yn y Gyfraith (Llwybr Carlam JD) yn radd ddwys yn y gyfraith, a addysgir dros ddwy flynedd, ac sydd wedi ei dylunio'n benodol ar gyfer graddedigion o brifysgolion yng Nghanada sydd heb radd yn y gyfraith.
Wedi'i seilio ar ymrwymiad i ragoriaeth academaidd a chynhwysiant, ac wedi'i llywio gan ymchwil, mae'r rhaglen yn cyfuno damcaniaeth ac ymarfer, gan eich galluogi i feithrin dealltwriaeth fanwl o sut mae'r gyfraith yn gweithio yn ei chyd-destun cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd ehangach. Bydd gofyn i chi ymdrin yn feirniadol ag egwyddorion cyfreithiol, sefydliadau, a'u heffaith gymdeithasol, gan ddatblygu meddwl dadansoddol, rhesymu moesegol, a safbwynt byd-eang.
Byddwch yn datblygu dealltwriaeth gynhwysfawr o sylfeini gwybodaeth gyfreithiol, gan gynnwys Cyfraith Contractau, Cyfraith Camwedd, Cyfraith Trosedd, Cyfraith Gyhoeddus, Cyfraith Tir, Ecwiti ac Ymddiriedau, Cyfraith yr UE, a Chyfraith Gyfansoddiadol Canada.
Mae'r radd hon yn ymgorffori'r pynciau cyfreithiol craidd a asesir gan yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (yr SQE) ac mae wedi'i hachredu gan Fwrdd Safonau'r Bar. Yn amodol ar lefel cyrhaeddiad ofynnol mewn modiwlau craidd, mae'r radd wedi'i hachredu gan Bwyllgor Cenedlaethol Canada ar Achredu (NCA), ac mae’r modiwl Cyfraith Gyfansoddiadol Canada yn darparu paratoad rhagorol ar gyfer arholiad yr NCA (ceir rhagor o wybodaeth am ofynion achredu’r NCA ar wefan yr NCA).
Bydd y cwrs LLB hwn yn eich galluogi i symud ymlaen i'r cam nesaf o hyfforddiant i gymhwyso fel cyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr, a Chanada.
Pam Cyfraith (JD Cyflymedig) yn Abertawe?
Fel myfyriwr yn Ysgol y Gyfraith, byddwch yn rhan o gymuned academaidd gefnogol lle mae eich llais yn bwysig. Mae tîm y rhaglen yn gweithio mewn partneriaeth â'n myfyrwyr i lunio dulliau addysgu a dylunio'r cwricwlwm, gan sicrhau bod eich dysgu yn parhau i fod yn arloesol ac yn ymatebol i'ch anghenion.
Byddwch yn cael lefel uchel o gymorth personol drwy gydol eich taith er mwyn darparu'r cyfleoedd gorau posibl i chi lwyddo. Mae hyn yn cynnwys tiwtoriaid personol ymroddedig, rhaglen sefydlu wedi'i chynllunio'n ofalus, gweithdai datblygu sgiliau, cyngor a chymorth cyflogadwyedd parhaus, ac ystod o weithgareddau allgyrsiol.
Mae gan Brifysgol Abertawe enw da sefydledig sy’n parhau i ddatblygu ym maes addysgu ac ymchwil y gyfraith. Mae Ysgol y Gyfraith yn cael ei chydnabod fel ffynhonnell arbenigedd, ac fel un sy'n cael effaith ar bolisi ac ymarfer mewn ystod amrywiol o feysydd.
Mae Adran y Gyfraith yn Abertawe yn y safleoedd canlynol:
Un o’r 125 o’r Adrannau Gorau yn y Byd (Safleoedd Prifysgolion y Byd Times Higher Education yn ôl Pwnc 2026)
Mae ymhlith 101-150 prifysgol orau’r byd (Safleoedd Prifysgolion y Byd yn ôl Pwnc QS 2025)
Eich Profiad Cyfraith (JD Cyflymedig)
Mae ein rhaglen yn rhoi pwyslais cryf ar sicrhau bod gennych y sgiliau angenrheidiol ar gyfer bywyd proffesiynol, gan gydnabod bod cyfran fawr o fyfyrwyr ar y rhaglen yn mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd yn y gyfraith, yng Nghanada, Lloegr neu Gymru.
Mae'r cwricwlwm wedi'i gynllunio'n ofalus i adlewyrchu tirwedd ddatblygol addysg gyfreithiol, gan gynnwys y newidiadau a gyflwynwyd gan yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE), wrth gynnal gwerth gradd draddodiadol yn y gyfraith.
Byddwch yn cael eich cefnogi drwy gydol y rhaglen i ddatblygu ystod eang o sgiliau, megis ysgrifennu cyfreithiol, cyflwyniad llafar a datrys problemau. Mae cynnwys asesiadau cwestiynau amlddewis (MCQ), sy'n nodwedd allweddol o arholiadau cyfwerthedd y Pwyllgor Cenedlaethol ar Achredu a'r SQE, yn sicrhau ymhellach eich bod yn barod ar gyfer gofynion proffesiynol cyfoes.
Mae cyfleoedd i gael profiad yn y byd go iawn wedi'u hymgorffori drwy gydol y radd, gan gynnwys cymryd rhan yng Nghlinig y Gyfraith, lle gallwch ddarparu cyngor i gleientiaid dan oruchwyliaeth, ac mae cyfleoedd i gymryd rhan mewn cystadlaethau ffug lys barn, negodi a chyfweld â chleientiaid.
Mae'r rhaglen yn cynnwys modiwlau sydd i gyd yn orfodol, gan ymdrin â sylfeini'r gyfraith. Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn astudio Cyfraith Gyhoeddus, Cyfraith Contractau, Cyfraith Camwedd, ac Y Gyfraith, Proffesiynoldeb a Moeseg. Yn yr ail flwyddyn mae'r modiwlau'n cynnwys Cyfraith Tir, Ecwiti ac Ymddiriedau a Chyfraith Trosedd, ynghyd â Chyfraith yr UE yn ei Chyd-destun a Chyfraith Gyfansoddiadol Canada.
Mae'r rhaglen yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau addysgu ac asesu i ddarparu ar gyfer gwahanol arddulliau a dewisiadau o ran dysgu. Mae’r dulliau addysgu yn cynnwys darlithoedd rhyngweithiol, seminarau, addysg gyfreithiol glinigol, a chyfleoedd dysgu drwy brofiad. Defnyddir offer digidol fel arolygon byw a chwisiau hefyd i wella ymgysylltiad a chyfranogiad, gan sicrhau y gallwch gyfrannu'n weithredol at eich profiad dysgu eich hun. Mae’r dulliau asesu yn cynnwys ystod eang o wahanol ddulliau, yn amrywio o arholiadau traddodiadol ar y safle i gyflwyniadau llafar a briffio cyfreithiol.
Cyfleoedd Cyflogaeth Cyfraith (JD Cyflymedig)
Mae gan Ysgol y Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe nifer o gysylltiadau yn y proffesiwn cyfreithiol. Drwy'r rhain, mae rhaglenni profiad gwaith ar gael ar gyfer lleoliadau haf mewn cwmnïau cyfreithwyr, siambrau bargyfreithwyr a phroffesiynau cysylltiedig. Rydym hefyd yn rhannu cyfleoedd cyflogadwyedd drwy ein platfformau mewnol ac ar ein tudalen LinkedIn i raddedigion, i'ch cefnogi i sicrhau cyflogaeth.
Ym mhob semester, rydym yn cynnal 'diwrnod asesu', i'ch galluogi i ymarfer eich sgiliau drafftio CV, cyfweld a datrys problemau. Rydym hefyd yn cynnal digwyddiad 'gyrfaoedd ychwanegol' bob blwyddyn i'ch galluogi i archwilio rhagolygon gyrfa eraill y tu allan i'r llwybrau traddodiadol sef Cyfreithiwr neu Fargyfreithiwr.
Cynhelir darlithoedd gwadd a gweithdai allgyrsiol drwy gydol y flwyddyn. Mae'r rhain yn cael eu cyflwyno gan Gyfreithwyr a Bargyfreithwyr, a sefydliadau fel Comisiwn y Gyfraith, gan roi mewnwelediadau gyrfa amhrisiadwy i chi, ac yn eich cysylltu ag aelodau allweddol o'r proffesiwn.
Bydd mwyafrif sylweddol o raddedigion y rhaglen hon yn mynd ymlaen i gymhwyso'n Gyfreithwyr yng Nghanada neu'n Gyfreithwyr neu Fargyfreithwyr yng Nghymru a Lloegr.
Mae cyrchfannau graddedigion nodweddiadol eraill yn cynnwys:
Yr heddlu
Y Gwasanaeth Prawf
Awdurdodau lleol a'r Gwasanaeth Sifil
Y sector ariannol
Adnoddau Dynol
Elusennau a chyrff anllywodraethol
Modiwlau
Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.
Yn Abertawe, byddwch yn elwa o addysg o ansawdd uchel, sy'n seiliedig ar
ymchwil, sy'n cyfuno ystod o ddulliau addysgu effeithiol a chynhwysol,
wedi'u teilwra'n ofalus i weddu i anghenion eich cwrs. Addysgir y rhan fwyaf
o gyrsiau wyneb yn wyneb, ar y campws, gan roi'r cyfle i
chi ymgysylltu'n weithredol â myfyrwyr eraill, staff academaidd, a chymuned
ehangach y brifysgol.
Gallwch ddisgwyl cymysgedd o
ddarlithoedd, seminarau, gweithdai a sesiynau ymarferol -
gan gynnwys gwaith labordy, hyfforddiant sgiliau, neu addysgu mewn stiwdio
lle bo'n berthnasol i'ch disgyblaeth. Mae'r sesiynau hyn wedi'u cynllunio i
annog cyfranogiad gweithredol, cydweithio, a datblygu sgiliau penodol i'r
pwnc a sgiliau trosglwyddadwy.
Defnyddir offer dysgu digidol hefyd i wella'ch profiad
dysgu. Gall y rhain gynnwys:
Darlithoedd wedi'u recordio i gefnogi astudio ac
adolygu hyblyg.
Labordai rhithwir neu amgylcheddau wedi’u hefelychu, yn
enwedig mewn gwyddoniaeth, gofal iechyd a disgyblaethau technegol.
Adnoddau ar-lein ar amgylchedd dysgu rhithwir y
brifysgol (Canvas), gan gynnwys fideos, deunyddiau darllen, cwisiau a
fforymau trafod.
Mae'r dull hwn yn eich galluogi i ymdrin â chynnwys a'i adolygu yn eich
amser eich hun wrth elwa o strwythur a chefnogaeth addysgu wyneb yn wyneb.
Efallai bydd y cwrs hwn yn cynnig rhai modiwlau sy’n cael eu haddysgu drwy
gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog i fyfyrwyr sy'n siarad Cymraeg yn rhugl.
Am ragor o fanylion am y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg sydd ar gael, gweler
yr ehangydd Darpariaeth Gymraeg isod.
N.B. Os ydych chi'n fyfyriwr rhyngwladol sy'n astudio gyda Fisa Llwybr
Myfyrwyr, sylwch y bydd eich gweithgareddau wedi'u hamserlennu, ynghyd
ag unrhyw weithgareddau goruchwylio ychwanegol (gyda staff Prifysgol
Abertawe yn bresennol) yn digwydd ar y campws.Yn unol â phrotocol Fisâu
a Mewnfudo'r Deyrnas Unedig, bydd y sesiynau hyn yn cael eu monitro a
bydd data ar gael ar gais.
Yn anffodus, does dim darpariaeth cyfrwng Cymraeg ffurfiol ar y cwrs hwn ar hyn o bryd. Os hoffech roi gwybod i ni
bod gennych ddiddordeb mewn dilyn elfen trwy gyfrwng y Gymraeg, e-bostiwch astudio@abertawe.ac.uk gan nodi eich blwyddyn mynediad i’r Brifysgol ac fe wnawn
ein gorau i weld beth sy’n bosib.
Er nad yw'r cwrs hwn yn darparu cynnwys academaidd trwy'r Gymraeg ar hyn o bryd, mae'r Brifysgol yn gallu darparu'r
canlynol ar eich cyfer, ac mae cefnogaeth ar gael i chi trwy Academi Hywel
Teifi:
Cyfle am gyfweliad trwy gyfrwng y Gymraeg wrth wneud cais am le.
Cyfle i dderbyn gohebiaeth bersonol yn Gymraeg, yn Saesneg neu'n ddwyieithog.
Cyfle i ysgrifennu a chyflwyno gwaith cwrs neu sefyll arholiadau trwy gyfrwng y Gymraeg (hyd yn oed os ydych
chi wedi dewis astudio yn Saesneg), a bydd eich gwaith yn cael ei farcio yn Gymraeg.
Tiwtor Personol Cymraeg ei iaith.
Cefnogaeth un i un yn y Gymraeg i wella eich sgiliau academaidd.
Cyfle i ennill cymhwyster ychwanegol sy'n
dystiolaeth o'ch gallu yn yr iaith Gymraeg i gyflogwyr, sef Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg y Coleg Cymraeg a
CBAC.
Mae'r rhaglen hon ar gyfer myfyrwyr o Ganada yn bennaf, ac o ganlyniad mae'n cydymffurfio â gofynion y Pwyllgor Cenedlaethol ar Achredu (y corff yng Nghanada sy'n gyfrifol am achredu graddau yn y gyfraith y tu allan i Ganada).
Er mwyn cael eu hachredu gan yr NCA, rhaid i fyfyrwyr fodloni gofynion Bwrdd Safonau Bar y DU, sef cwblhau Cyfraith Contractau, Camwedd, Cyfraith Gyhoeddus, Cyfraith Tir, Ecwiti ac Ymddiriedau, a Chyfraith yr UE yn ei Chyd-destun yn llwyddiannus, pob un ohonynt yn fodiwlau craidd ar y rhaglen hon.
Mae ein graddau yn y gyfraith yn cael eu haddysgu gan arbenigwyr, y mae rhai ohonynt yn ymarferwyr cyfreithiol profiadol ac y mae ganddynt oll gyfoeth o wybodaeth gyfreithiol i’w throsglwyddo i’n myfyrwyr.
Gallwch ddysgu rhagor am ein harbenigedd academaidd ar ein tudalennau staff.
Gall ffïoedd ar gyfer myfyrwyr israddedig amser llawn y DU gynyddu ym mlynyddoedd dilynol astudio yn unol â'r uchafswm ffi reoledig a bennir gan Lywodraeth Cymru.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.
Efallai y byddwch yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.
I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd cyllido eraill sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.
Myfyrwyr cyfredol: Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.
Mae’n bosib eich bod yn gymwys i gael cymorth ariannol tuag at eich astudiaethau.
I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd eraill am gymorth ariannol sydd ar gael, ewch i dudalen
ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.
Mae ysgoloriaethau a bwrsariaethau hael ar gael gan Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog.
I ddysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael i chi, ewch i dudalen Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Academi Hywel Teifi
Bydd mynediad i'ch dyfais ddigidol eich hun/y pecyn TG priodol yn hanfodol yn ystod eich amser yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd mynediad at wifi yn eich llety hefyd yn hanfodol i'ch galluogi i ymgysylltu'n llawn â'ch rhaglen. Gweler ein tudalennau gwe pwrpasol i gael arweiniad pellach ar ddyfeisiau addas i'w prynu, ac i gael canllaw llawn ar sefydlu'ch dyfais.
Efallai y byddwch chi'n wynebu costau ychwanegol tra byddwch chi yn y brifysgol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):
Teithio i'r campws ac oddi yno
Costau argraffu, llungopïo, rhwymo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. ffyn USB)
Yn ogystal â chymorth pwnc penodol gan staff addysgu'r coleg a'ch tiwtor
personol, mae'r
Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn darparu cyrsiau, gweithdai a chymorth un-i-un mewn
meysydd fel:
Ysgrifennu academaidd
Mathemateg ac ystadegau
Meddwl critigol
Rheoli amser
Sgiliau digidol
Sgiliau cyflwyno
Cymryd nodiadau
Technegau adolygu, dysgu ar gof ac arholiadau
Sgiliau Saesneg (os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf)
Yn ogystal, os oes gennych Anhawster Dysgu Penodol (ADP/SpLD), anabledd,
cyflwr iechyd meddwl neu gyflwr meddygol, mae gan y Ganolfan Llwyddiant
Academaidd Diwtoriaid Arbenigol i gefnogi'ch dysgu. Bydd y tiwtoriaid yn
gweithio ochr yn ochr â'r Swyddfa Anabledd
a'r Gwasanaeth Lles i gefnogi eich holl anghenion a
gofynion tra byddwch yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae rhaglenni rhyngwladol yr haf ar agor i fyfyrwyr o bob ysgol. Fel arfer,
mae rhaglenni'n para o 2 i 6 wythnos, ar draws cyrchfannau megis Sri Lanka,
De Corea, Fiji, Bali, UDA a ledled Ewrop. Am ragor o wybodaeth ynghylch
rhaglenni a chymhwysedd, ewch i'n
tudalennau gwe Haf Dramor.
Argymhellwn eich bod chi'n cyflwyno eich cais am le ar ein cyrsiau mor fuan â phosibl cyn ein dyddiadau cau ar gyfer
cyflwyno cais. Bydd cyrsiau'n cau yn gynharach na'r dyddiadau cau a restrir os caiff yr holl leoedd eu llenwi. Mae
rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen we Dyddiadau
cau ar gyfer cyflwyno cais.
Gwybodaeth Ychwanegol (2,000 o nodau) – Ddim yn orfodol
Cymdeithasau Myfyrwyr
Yn Abertawe, mae gennym ystod o gymdeithasau sy'n canolbwyntio ar y Gyfraith, sy'n cynnig cyfleoedd i chi gwrdd â chyd-fyfyrwyr a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau. Caiff y cymdeithasau hyn eu rheoli gan fyfyrwyr i fyfyrwyr ac maent yn cynnwys:
Bydd y Brifysgol yn gwneud pob ymdrech i ddarparu pob cwrs yn unol â'r
disgrifiadau a geir yn nhudalennau gwe'r cwrs perthnasol ar adeg eich
cais. Fodd bynnag, gall fod sefyllfaoedd pan fydd yn ddymunol neu'n
angenrheidiol i'r Brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs naill
ai cyn neu ar ôl cofrestru.
Mae'r wybodaeth isod ar gyfer myfyrwyr sy'n dechrau eu cyrsiau yn 2016 neu
wedi hynny.
Fel arfer, ni fydd y Brifysgol yn gwneud newidiadau sylweddol iawn i gyrsiau
(er enghraifft, newid teitl y cwrs, ailstrwythuro sylweddol, newid sylweddol
yng nghynnwys y cwrs, neu gyflwyno rhwystr i ddilyniant) a fyddai'n
effeithio ar fyfyrwyr sydd eisoes wedi dechrau eu cwrs. Mewn amgylchiadau
eithriadol, gall fod angen i'r Brifysgol wneud y fath newid ar ôl i ddeiliad
cynnig dderbyn lle. Ni fydd hyn yn digwydd llai na 5 mis cyn cofrestru.
Caiff deiliad y cynnig ei hysbysu am y newid a chyfle i dynnu ei gais yn ôl
a gwneud cais i sefydliad arall.
Gellid gwneud newidiadau eraill yng nghynnwys y cwrs, y lleoliad astudio, y
dulliau cyflwyno a'r ddarpariaeth addysgu oherwydd datblygiadau yn y pwnc
dan sylw, gwelliannau i arfer addysgu neu asesu, gofynion prosesau achredu
allanol, newidiadau staffio, cyfyngiadau o ran adnoddau neu newidiadau o ran
argaeledd cyfleusterau. Bydd newidiadau o'r fath yn ystyried disgwyliadau
rhesymol darpar fyfyrwyr a myfyrwyr presennol.
Crynodeb o'r Newidiadau
Dyddiad y Newid
10/02/2026
Course Title(s)
Cyfraith (JD Cyflymedig),
LLB (Anrh)
2 Flynedd
Llawn Amser
(MJ20)
Newidiad o Bwys
Mae newidiadau i strwythur credydau'r rhaglen hon ar fwy nag un lefel astudio yn ogystal â newidiadau sylweddol i strwythur y rhaglen sy'n effeithio ar a yw modiwlau'n orfodol neu'n ddewisol.
Rheswm dros y Newid
Mae'r diweddariadau hyn wedi'u cynllunio i wneud eich profiad dysgu'n fwy syml, perthnasol a haws i'w reoli.