Y Gyfraith ar Waith gyda Chysylltiadau Rhyngwladol, LLB (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
students at the school of law

Trosolwg o'r Cwrs

Mae ein gradd LLB yn y Gyfraith gyda Chysylltiadau Rhyngwladol yn cynnig gradd yn y gyfraith ynghyd ag archwiliad diddorol i'r perthnasoedd a'r patrymau ymddygiad a geir rhwng cenhedloedd, eu harweinwyr a sefydliadau, yn ogystal â lleoliad gwaith proffesiynol am flwyddyn.

Byddwch yn meithrin dealltwriaeth gynhwysfawr o feysydd craidd gradd yn y Gyfraith. Wrth i'ch astudiaethau fynd rhagddynt, gallwch ddewis o blith ystod eang o feysydd pwnc arbenigol yn y gyfraith gyda rhestr helaeth o dros ddeugain o fodiwlau dewisol i ddewis ohonynt.  Byddwch yn treulio eich trydedd flwyddyn yn gwneud interniaeth â thâl mewn lleoliad cyfreithiol, a fydd yn eich galluogi i gael profiad uniongyrchol o ymarfer y gyfraith, a meithrin sgiliau allweddol a fydd yn hynod ddefnyddiol yn eich gyrfa yn y dyfodol.

Ochr yn ochr â hyn, byddwch yn dysgu am werth perthnasoedd heddychlon rhwng cenhedloedd, gan gynnwys canolbwyntio ar themâu megis globaleiddio, gwleidyddiaeth ryngwladol, heddwch a gwrthdaro, a strategaethau grym.

Mae pob un o'n rhaglenni israddedig yn y Gyfraith yn cynnwys sylfeini gwybodaeth gyfreithiol y mae eu hangen i ddechrau yn y proffesiwn cyfreithiol. Mae ein rhaglenni'n darparu sylfaen gref i fyfyrwyr a allai ddymuno sefyll Arholiadau Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE) yn y dyfodol, a bodloni'r cam academaidd o'r hyfforddiant sy'n ofynnol gan Fwrdd Safonau'r Bar i'r rhai hynny sy'n dymuno dod yn fargyfreithwyr.

Os hoffech gwblhau gradd LLB 3 blynedd heb flwyddyn yn ymarfer, ewch i dudalen ein cwrs LLB yn y Gyfraith gyda Chysylltiadau Rhyngwladol.

Pam Y Gyfraith ar Waith gyda Chysylltiadau Rhyngwladol yn Abertawe?

Byddwch yn rhan o Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton ac Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, ac yn elwa o fod yn rhan o ddau amgylchedd bywiog ac amrywiol sy'n cadw myfyrwyr wrth eu gwraidd.

Mae gan Brifysgol Abertawe enw da sefydledig a chynyddol am addysgu ac ymchwil yn y Gyfraith a Chysylltiadau Rhyngwladol, ac mae'n cael ei chydnabod yn gyson fel ffynhonnell arbenigedd sy'n cael effaith ar bolisi ac ymarfer mewn ystod amrywiol o feysydd. Hefyd rydym yn hollol ymrwymedig i wella dysgu ac addysgu’n barhaus, ac i roi myfyrwyr wrth wraidd ein gweithgareddau.

Bydd ein Tîm Cyflogadwyedd sefydledig yn eich cefnogi i'ch helpu i sicrhau lleoliad gwaith mewn amgylchedd gwasanaeth cyfreithiol am eich trydedd flwyddyn, a fydd â buddion pendant i'ch llwybr gyrfa a'ch cyflogaeth yn y dyfodol.

Mae'r Gyfraith yn Abertawe wedi'i rhestru:

  • Yn y 125 Gorau yn y Byd (The Times Higher Education World University Rankings by Subject 2025)
  • Yn y 150 Gorau yn y Byd (QS World University Rankings by Subject 2025)

Eich Profiad o'r Gyfraith ar Waith gyda Gwleidyddiaeth

Mae'r LLB yn y Gyfraith ar Waith gyda Chysylltiadau Rhyngwladol yn canolbwyntio ar roi'r sgiliau a'r wybodaeth y bydd eu hangen arnoch ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.

Rydym yn cynnig amgylchedd dysgu a chymuned gynhwysol sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr. Caiff modiwlau eu cyflwyno a’u hasesu mewn amrywiaeth o ffyrdd a chewch eich annog i gymryd cyfrifoldeb dros eich dysgu eich hun, i weithio’n annibynnol yn ogystal ag ar y cyd ag eraill, i ymddwyn yn broffesiynol a meistroli sgiliau newydd.

Yn ogystal â gweithgareddau dysgu ac addysgu, rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd i chi gymryd rhan ynddynt: o leoliadau sy’n seiliedig ar ymchwil, i weithio gyda chleientiaid, i ddatblygu sgiliau eiriolaeth ac eraill. Mae ein Clinig Cyfreithiol ffyniannus yn cynnig cyfle i fyfyrwyr fod yn rhan o roi cyngor i gleientiaid ac mae gennym raglenni dadlau, negodi a chyfweld allgyrsiol.    

Bydd gennych hefyd yr opsiwn cystadleuol (a fydd ar gael i 20 myfyriwr) o ymgymryd â modiwl interniaeth yn Senedd Cymru, gan weithio'n agos gydag Aelodau o'r Senedd am un diwrnod yr wythnos. Byddwch yn astudio yn un o adrannau dethol y Deyrnas Unedig sy'n cynnig modiwl Astudiaethau Seneddol Prydain, lle cewch eich addysgu gan ein staff academaidd arbenigol ac Aelodau Seneddol. Byddwch hefyd yn ymweld â Thŷ'r Cyffredin.

Mae strwythur hyblyg ein gradd israddedig, gyda’i hystod helaeth o fodiwlau dewisol yn y flwyddyn olaf, yn rhoi digon o gwmpas i chi deilwra eich astudiaethau i’ch diddordebau penodol, eich nodau gyrfa neu’ch uchelgeisiau. 

Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd lleoliadau gwaith ychwanegol mewn amrywiaeth eang o sefydliadau.

Cyfleoedd Cyflogaeth Y Gyfraith ar Waith gyda Chysylltiadau Rhyngwladol

Gall astudio am radd yn y Gyfraith arwain at amrywiaeth o yrfaoedd. Ein nod ni yw arfogi myfyrwyr â’r sgiliau amrywiol i wella eu rhagolygon fel graddedigion. Mae ein graddedigion yn dod o hyd i swyddi mewn amrywiaeth eang o yrfaoedd, gan gynnwys y canlynol:

  • bargyfreithiwr, gwas sifil, gweithredwr cyfreithiol, gweithiwr paragyfreithiol, heddwas, swyddog carcharorion, ymchwilydd, cyfreithiwr, brocer stoc neu swyddog safonau masnach

Mae ychwanegu arbenigedd cysylltiadau rhyngwladol at eich gradd yn agor drysau i yrfaoedd mewn:

  • Addysg, Llywodraeth a Gwleidyddiaeth, Sefydliadau Dyngarol, Busnes, y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus, neu Wasanaethau Cyhoeddus

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Y Gyfraith ar Waith gyda Chysylltiadau Rhyngwladol, LLB (Anrh)