Trosolwg o'r Cwrs
Os nad ydych yn ennill y graddau angenrheidiol i gofrestru ar y rhaglen LLB yn y Gyfraith ar Waith gyda Gwleidyddiaeth, gallai'r rhaglen pum mlynedd hon, gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen, fod yn addas i chi.
Mae'r Flwyddyn Sylfaen yn ffordd ardderchog o feithrin yr wybodaeth a'r sgiliau sy'n angenrheidiol i ddechrau'r radd LLB yn y Gyfraith ar Waith gyda Gwleidyddiaeth; cewch gyflwyniad i themâu allweddol yn y gyfraith, yn ogystal â chyfleoedd i feithrin sgiliau newydd a fydd yn ddefnyddiol drwy gydol eich gradd israddedig.
Mae'r Flwyddyn Sylfaen yn cael ei haddysgu yn Y Coleg, ar Gampws y Bae'r Brifysgol. Ar ôl i chi gwblhau'r flwyddyn hon, byddwch yn symud i Ysgol y Gyfraith ar Gampws Singleton am weddill eich rhaglen astudio.
Mae'r rhaglen yn darparu sylfaen gynhwysfawr yn y meysydd craidd sy'n cael eu trafod mewn gradd yn y Gyfraith, a gallwch ddewis o blith ystod eang o feysydd pwnc arbenigol yn y gyfraith gyda rhestr helaeth o dros 40 o fodiwlau dewisol i ddewis ohonynt.
Ochr yn ochr â hyn, byddwch yn astudio agweddau allweddol ar wleidyddiaeth Prydain a rhyngwladol, polisi cyhoeddus, damcaniaeth wleidyddol, athroniaeth, a heddwch a gwrthdaro.
Drwy gydol eich gradd byddwch yn meithrin sgiliau ymchwil a dadansoddol rhagorol, gan ddysgu cyflwyno eich syniadau'n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig, ac yn elwa o'n hymagwedd a arweinir gan ymarfer at y gyfraith a'i pherthynas â gwleidyddiaeth.
Mae pob un o'n rhaglenni israddedig yn y Gyfraith yn cynnwys sylfeini gwybodaeth gyfreithiol y mae eu hangen i ddechrau yn y proffesiwn cyfreithiol. Mae ein rhaglenni'n darparu sylfaen gref i fyfyrwyr a allai ddymuno sefyll Arholiadau Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE) yn y dyfodol, a bodloni'r cam academaidd o'r hyfforddiant sy'n ofynnol gan Fwrdd Safonau'r Bar i'r rhai hynny sy'n dymuno dod yn fargyfreithwyr.