Trosolwg o'r Cwrs
Cymerwch y camau cyntaf tuag at amrywiaeth o yrfaoedd yn y sectorau cyfreithiol a chyfiawnder troseddol gyda'r LLB Y Gyfraith ar Waith gyda Throseddeg.
Mae'r rhaglen radd hon sy'n para 4 blynedd yn dwyn ynghyd astudio'r Gyfraith a Throseddeg, gan dreulio eich trydedd flwyddyn fel intern â thâl mewn lleoliad cyfreithiol. Bydd hyn yn eich galluogi i gael profiad o ymarfer cyfreithiol yn uniongyrchol, a meithrin sgiliau allweddol a fydd yn ddefnyddiol dros ben yn eich gyrfa yn y dyfodol.
Drwy gydol eich gradd israddedig yn y Gyfraith, byddwch yn meithrin sgiliau ymchwil a dadansoddi ardderchog a’r gallu i gyfleu eich syniadau’n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig. Byddwch hefyd yn cael sylfaen gynhwysfawr o'r meysydd craidd sy'n rhan o radd yn y Gyfraith. Ochr yn ochr â hyn, byddwch yn astudio cysyniadau craidd maes troseddeg, damcaniaethau pwysicaf troseddu a gwyrni a’u perthnasedd â pholisi troseddol, ymchwil ac ymarfer troseddol.
Mae pob un o'n rhaglenni israddedig yn y Gyfraith yn cynnwys sylfeini gwybodaeth gyfreithiol y mae eu hangen i ddechrau yn y proffesiwn cyfreithiol. Mae ein rhaglenni'n darparu sylfaen gref i fyfyrwyr a allai ddymuno sefyll Arholiadau Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE) yn y dyfodol, a bodloni'r cam academaidd o'r hyfforddiant sy'n ofynnol gan Fwrdd Safonau'r Bar i'r rhai sy'n dymuno dod yn fargyfreithwyr.
Os hoffech gwblhau LLB 3 blynedd heb flwyddyn yn ymarfer, ewch i dudalen ein cwrs LLB Y Gyfraith gyda Throseddeg.