Trosolwg o'r Cwrs
Sylwer: Mae'r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol yn unig.
Gall myfyrwyr o'r DU ystyried ein graddau rheoli busnes eraill.
Mae BSc Rheoli Busnes Byd-eang (Gradd Atodol) yn cynnig cyfle cyffrous i fyfyrwyr sy'n chwilio am addysg ddeinamig a chyfoes ym meysydd busnes a rheoli. Mae'r rhaglen arloesol hon yn canolbwyntio ar archwilio'n fanwl i sefydliadau, eu strategaethau rheoli ac effeithiau yn sgîl yr amgylcheddau allanol sy'n datblygu'n gyson, ar raddfa fyd-eang. Fe'i lluniwyd i fyfyrwyr o amrywiaeth o gefndiroedd i ddysgu gyda'i gilydd a chan ei gilydd.
Os ydych chi’n fyfyriwr rhyngwladol ac rydych chi eisoes wedi cwblhau astudio dwy flynedd o'ch gradd israddedig mewn disgyblaeth gysylltiedig neu'n meddu ar gymhwyster cyfwerth megis Diploma Cenedlaethol Uwch (HND), gallwch chi astudio'r cwrs atodol hwn i ennill gradd baglor.
Os wyt ti'n fyfyriwr o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig ac rwyt ti eisoes wedi astudio dwy flynedd o'th radd israddedig mewn disgyblaeth gysylltiedig neu'n meddu ar gymhwyster cyfwerth megis Diploma Cenedlaethol Uwch (HND), gelli di astudio'r cwrs atodol hwn i ennill gradd baglor.
Mae ein cwricwlwm yn pwysleisio amrywiaeth o safbwyntiau arwain a rheoli strategol, gan sicrhau bod myfyrwyr yn deall cynnwys y pwnc yng nghyd-destun y dirwedd fyd-eang. Mae materion cyfoes megis moeseg, cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol, cynaliadwyedd, entrepreneuriaeth, arloesedd a chyfathrebu digidol/marchnata wrth wraidd ein haddysgu.
Yn ogystal â pharatoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd yn y farchnad busnes fyd-eang, mae'r radd hon yn berffaith ar gyfer y rhai hynny ag uchelgeisiau i ddatblygu eu haddysg ar lefel ôl-raddedig. Ar ôl cwblhau'r radd yn llwyddiannus, mae myfyrwyr wedi'u harfogi i gael mynediad at y rhaglenni ôl-raddedig perthnasol.