Trosolwg o'r Cwrs
A ydych yn chwilio am radd mewn cyllid busnes a fydd yn eich helpu i sefyll allan drwy feddu ar y sgiliau arbenigol sydd eu hangen i reoli arian mewn busnes byd-eang, genedlaethol neu leol?
Gallai'r cwrs gradd BSc Rheoli Busnes (Cyllid) gyda Blwyddyn Sylfaen ym Mhrifysgol Abertawe eich helpu i gyflawni hyn.
Os nad ydych wedi ennill y graddau angenrheidiol i gofrestru ar gyfer y cwrs BSc Rheoli Busnes (Cyllid), y cwrs BSc Rheoli Busnes (Cyllid) gyda Blwyddyn Sylfaen yw'r radd i chi.
Mae'r Flwyddyn Sylfaen yn ffordd ardderchog o feithrin y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ym maes cyllid busnes, cyn ymuno â myfyrwyr Blwyddyn 1 y cwrs gradd BSc Rheoli Busnes (Cyllid) yn yr Ysgol Reolaeth.
Yn ystod eich cwrs gradd, byddwch yn astudio modiwlau busnes craidd gan gynnwys: marchnata, cyfrifyddu, cyllid, strategaeth a rheoli adnoddau dynol. Byddwch hefyd yn cael cyfle i astudio pynciau cyllid ar lefel uwch fel cyllid corfforaethol, arloesedd ariannol a rheoli risg, gwasanaethau ariannol a rheoli ariannol rhyngwladol.
Caiff y Flwyddyn Sylfaen ei haddysgu yn Y Coleg, sydd y drws nesaf i'r Ysgol Reolaeth. Ar ôl i chi gwblhau'r flwyddyn hon, byddwch yn symud i adeilad yr Ysgol Reolaeth am weddill eich astudiaethau.