Trosolwg o'r Cwrs
A ydych yn gweld eich hun yn rhedeg eich busnes eich hun? A ydych yn chwilio am radd a fydd yn eich helpu i droi syniad cyffrous yn fusnes proffidiol a llwyddiannus?
Gallai'r cwrs gradd BSc Rheoli Busnes (Menter ac Arloesi) gyda Blwyddyn Sylfaen ym Mhrifysgol Abertawe eich helpu i gyflawni hyn.
Os nad ydych wedi ennill y graddau angenrheidiol i gofrestru ar gyfer y cwrs BSc Rheoli Busnes (Menter ac Arloesi), y cwrs BSc Rheoli Busnes (Menter ac Arloesi) gyda Blwyddyn Sylfaen yw'r radd i chi.
Mae'r Flwyddyn Sylfaen yn ffordd ardderchog o feithrin y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ym maes rheoli busnes ac entrepreneuriaeth, cyn ymuno â myfyrwyr Blwyddyn 1 y cwrs gradd BSc Rheoli Busnes (Menter ac Arloesi) yn yr Ysgol Reolaeth.
Yn ystod eich cwrs, yn ogystal â chwmpasu meysydd craidd busnes a rheoli, byddwch yn meithrin y meddylfryd a'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar entrepreneur. Byddwch yn astudio amrywiaeth o bynciau busnes allweddol gan gynnwys: marchnata, rheoli gweithrediadau, cyfrifyddu, cyllid, strategaeth a rheoli adnoddau dynol, ochr yn ochr â modiwlau sy'n ymwneud yn benodol ag entrepreneuriaeth.
Caiff y Flwyddyn Sylfaen ei haddysgu yn Y Coleg, sydd y drws nesaf i'r Ysgol Reolaeth. Ar ôl i chi gwblhau'r flwyddyn hon, byddwch yn symud i adeilad yr Ysgol Reolaeth am weddill eich astudiaethau.