Cyfweliad meddyginiaeth warantedig 

Mae pob un o’n 10 Gradd Llwybr yn cynnig y cyfle i fyfyrwyr o gyfweliad gwarantedig ar gyfer Meddygaeth Mynediad I Raddedigion. Os na gawsoch le ym Meddygaeth ac yn darganfod eich hun yn ceisio am Brifysgol fesul clirio, mae ein Llwybrau yn ddewis delfrydol i chi.

Bydd UCAS yn ei gwneud yn ofynnol i chi fel Ymgeisydd Meddygaeth israddedig ddewis 5ed dewis nad yw'n Feddygaeth ar eich cais. Mae ein Llwybrau at Feddygaeth wedi'u cynllunio'n benodol i lenwi'r slot 5ed dewis gyda gradd a fydd yn eich helpu i gyflawni eich uchelgais i astudio Meddygaeth, a'ch helpu i gael cyfweliad gwarantedig ar gyfer ein gradd Meddygaeth.

Meddygaeth: Canllaw 5ed Dewis UCAS

Beth am ddarganfod yr hyn sydd gan ein graddau llwybr i'w gynnig:

Gwyddorau Meddygol Cymhwysol
Students in lab

Mae Gwyddorau Meddygol Cymhwysol yn faes astudio amlddisgyblaethol sy'n canolbwyntio ar agweddau biolegol iechyd a chlefydau dynol. Mae'n cyfuno egwyddorion o fioleg, cemeg, a disgyblaethau gwyddonol eraill i ddeall mecanweithiau sylfaenol clefydau, datblygu offer diagnostig, ac archwilio triniaethau ac ymyriadau. Mae gwyddonwyr meddygol Cymhwysol yn chwarae rhan hanfodol wrth ddatblygu gwybodaeth feddygol a gwella gofal iechyd.

Ar gael drwy'r canlynol:

Biocemeg Feddygol Geneteg Feddygol Ffarmacoleg Feddygol Iechyd Poblogaethau a Gwyddorau Meddygol Llwybrau Clinigol a Gofal Iechyd eraill

Sut mae'r Rhaglen yn ei gweithio

Mae myfyrwyr sy'n dewis llwybr i feddygaeth yn elwa ar fodiwlau pwrpasol a arsylwadau iechyd neu gysylltiedig. Cânt eu paratoi'n arbenigol ar gyfer gwneud cais i'n cwrs Meddygaeth i Raddedigion ochr yn ochr â chyfweliad gwarantedig ar gyfer ein cwrs Meddygaeth i Raddedigion.

Rydym yn gwarantu cyfweliad i raddedigion sydd ar ein Llwybrau israddedig penodol ar gyfer ein rhaglen Meddygaeth i Raddedigion, cyhyd a'u bod yn cyrraedd y gofynion mynediad pan yn gwneud cais, ac yn cwblhau'r llwybr israddedig yn llwyddiannus.

Medddygaeth NSS
Myfywwyr gyda darlithwyr yn y labordy

Mae cwblhau'r Llwybr israddedig yn llwyddiannus yn golygu: 

  1. Marc cyfartalog cyffredinol o 60% yn y Flwyddyn Gyntaf i fod yn gymwys am y modiwlau Llwybr yn yr Ail Flwyddyn. "Doctors, Patients and the Goals of Medicine (PM254)"

  2. 60% yn y Modiwlau Llwybr – "Doctors, Patients and the Goals of Medicine (PM254)"

  3. Mae'n ofynnol wrth wneud cais fod gan fyfyrwyr sgôr GAMSAT dilys (neu MCAT os ydynt yn Fyfyrwyr rhyngwladol) neu eu bod yn disgwyl sgôr dilys

Bydd myfyrwyr sy'n cyrraedd y meini prawf mynediad yn gymwys am Gyfweliad Gwarantedig yn eu blwyddyn olaf, ond dim ond unwaith y caiff fyfyrwyr ddefnyddio'r Cyfweliad Gwarantedig, yn eu blwyddyn olaf o astudio.

Straeon A Chyngor Myfyriwr